Ethol Esgob newydd Abertawe ac Aberhonddu
Caiff Esgob nesaf Abertawe ac Aberhonddu ei ethol ym mis Medi.
Cynhelir yr etholiad yn Eglwys y Santes Fair yng nghanol Abertawe. Caiff yr eglwys ei chau am hyd at dridiau pan fydd y Coleg Etholiadol yn cwrdd tu mewn i enwebu ac wedyn bleidleisio ar restr gyfrinachol o ymgeiswyr.
Mae cyfarfod y Coleg yn dilyn ymddeoliad Archesgob Cymru, John Davies ym mis Mai, oedd hefyd yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu – swydd a ddaliodd am y 13 mlynedd ddiwethaf.
Yr esgob newydd fydd 10fed Esgob Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu, ardal sy’n ymestyn i’r de i arfordir Gŵyr ac i’r gogledd i lawer o’r Canolbarth. Mae’r esgob yn seiliedig yn Aberhonddu.
Bydd gan y Coleg Etholiadol hyd at dridiau i ddod i benderfyniad. Os gwneir etholiad, bydd yr Uwch Esgob yn datgloi ac agor drws gorllewinol yr eglwys a chyhoeddi enw y Darpar Esgob yn ffurfiol.
Mae’r Coleg yn cynnwys 47 o bobl yn cynrychioli pob un o chwech esgobaeth Cymru; cynrychiolir yr esgobaeth “gartref” gan chwech o leygwyr a chwech o glerigwyr, a’r pump esgobaeth arall gan dri o leygwyr a thri o glerigwyr yr un, ynghyd â’r pump Esgob arall.
Mae ei drafodaethau yn gyfrinachol, gydag ymgeiswyr ar gyfer yr etholiad yn cael eu henwebu , eu trafod a phleidleisio arnynt drwy bleidlais ddirgel yn y cyfarfod, a gall fod nifer o gylchoedd enwebu, trafod a phleidleisio. Caiff ymgeisydd sy’n derbyn dau-draean y pleidleisiau mewn pleidlais o’r rhai sy’n bresennol ei ddatgan yn Ddarpar Esgob. Pe byddai’r Coleg yn methu ethol, trosglwyddir y penderfyniad i’r Fainc Esgobion.
Unwaith yr etholir esgob, bydd ganddo ef neu hi hyd at 28 diwrnod i dderbyn neu wrthod y swydd. Os yw’n derbyn, caiff yr etholiad ei gadarnhau’n ffurfiol mewn gwasanaeth Synod Sanctaidd a gynhelir yn fuan wedyn.
Bydd cyfarfod y Coleg Etholiadol ar 1 Medi yn dechrau gyda dathliad o’r Ewcharist Sanctaidd yn Eglwys y Santes Fair, gyda chroeso i bawb, er y gall fod terfyn ar y nifer oherwydd cyfyngiadau Covid. Yn dilyn y gwasanaeth, aiff y Coleg i’w sesiwn breifat a chaiff yr eglwys ei chau.
Gwneir trefniadau ar gyfer ethol Archesgob Cymru ar ôl cwblhau ethol Esgob Abertawe ac Aberhonddu.