Yr Ardd Feddwl
Croeso i Gadeirlan Aberhonddu. Ar ein llwybr treftadaeth, gallwch ddarganfod beth mae’r adeiladau, y coed, a’r gwrthrychau o fewn y tir o gwmpas y gadeirlan yn ei ddatgelu am ein gorffennol a’n presennol. Mae 14 o wahanol storïau ar hyd y llwybr. Gallwch eu darganfod a’u harchwilio ym mha drefn bynnag. Pan welwch chi logo’r Gadeirlan, pwyntiwch gamera eich ffôn at y cod QR.

Dyma’r Ardd Feddwl Werdd. Mae wedi’i phlannu ar safle gardd lysiau a oedd yn perthyn i Dŷ’r Priordy pan oedd yn gartref preifat. Roedd coed gellyg, llysiau, ffrwythau a blodau’n tyfu yma, ond pan brynwyd yr adeiladau oddi wrth yr Arglwydd Camden gan yr esgobaeth yn y 1930au cafodd yr ardd ei thirlunio a diflannodd yr ardd lysiau. Roedd wedi tyfu’n wyllt ac angen cariad a gofal tyner. Dechreuwyd gweithio arni ym mis Rhagfyr 2019; mae wedi’i chynllunio fel hafan heddychlon sy’n cyffroi’r holl synhwyrau. Mae yma blanhigion bwytadwy a meddyginiaethol sy’n arogli’n hyfryd, gweadeddau, a blasau, blodau hardd, a mannau i eistedd a’u mwynhau i gyd. O dan ffenestr i’r 13eg ganrif gaeedig Tŷ’r Priordy mae gardd lysiau treftadaeth. Mae ynddi bob math o blanhigion a blodau bwytadwy yn tyfu. Lle i wirfoddolwyr weithio, cael adferiad a dod o hyd i heddwch yw’r Ardd Feddwl. Hyderwn y dewch chithau hefyd o hyd i heddwch yma.

