Yr olygfa dros Aberhonddu
Croeso i Gadeirlan Aberhonddu. Ar ein llwybr treftadaeth, gallwch ddarganfod beth mae’r adeiladau, y coed, a’r gwrthrychau o fewn y tir o gwmpas y gadeirlan yn ei ddatgelu am ein gorffennol a’n presennol. Mae 14 o wahanol storïau ar hyd y llwybr. Gallwch eu darganfod a’u harchwilio ym mha drefn bynnag. Pan welwch chi logo’r Gadeirlan, pwyntiwch gamera eich ffôn at y cod QR.

Mae’r olygfa yma yn edrych dros dref Aberhonddu a Bannau Brycheiniog. Wrth sefyll yn y fan hon gallwch weld llawer o dirnodau Sir Frycheiniog. Ar ddiwrnod clir mae Pen y Fan a’r Bannau ar y gorwel. O’u blaen gallwch weld tŷ Sioraidd hardd Priory Hill House, gyda’r Cilborth yn rhedeg i lawr ac i mewn i’r dre, heibio i hen Ysgol y Cilborth a hen garchar y Fwrdeistref ar y chwith. Allwch chi ddim gweld adfeilion castell Bernard de Neufmarché o’r 11eg ganrif am fod y coed a thoeau’r tai yn eu cuddio. Chewch chi ddim cip chwaith ar weddillion tŵr castell o’r 12fed ganrif, sy’n cael ei adnabod fel Tŵr Ely, o fewn muriau cartref yr Esgob, ond os crwydrwch chi i lawr y ffordd yn nes ymlaen fe gewch gipolwg arnynt. Gallwch weld yn y pellter Dŵr Buckingham Eglwys y Santes Fair o’r 16eg ganrif, ac os ydych yn gyfarwydd â’r dref fe sylwch chi ar y prif ffyrdd ac adeiladau. O’r safle hwn gallwch weld sut mae’r dref yn swatio ar lannau afonydd Wysg a Honddu, a gwerthfawrogi peth o’i harddwch o fewn ei hamgylchedd.