Rydyn ni i fod yn gymodwyr: Anerchiad Arlywyddol cyntaf yr Archesgob yn tynnu sylw at ei blaenoriaethau ar gyfer dyfodol yr Eglwys yng Nghymru

Mae Archesgob Cymru, Cherry Vann, yn tynnu sylw at ei blaenoriaethau ar gyfer dyfodol yr Eglwys yng Nghymru yn ei Anerchiad Arlywyddol i aelodau o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru.
Mae'r Archesgob Cherry yn trafod y meysydd canlynol:
- Gofalu am ein pwrpas craidd fel eglwys Dduw
- Gofalu am ein perthynas â'n gilydd; a
- Gofalu am ein hunain a'n perthynas unigol ein hunain â Duw
Carwn ddechrau fy Anerchiad fel Llywydd, trwy ddiolch i bawb sydd wedi anfon negeseuon yn fy llongyfarch ac yn dymuno’r gorau i mi pan gefais fy ethol yn Archesgob. Rydw i’n dal i synnu a rhyfeddu at yr holl bobl sydd wedi mynd i’r drafferth i gysylltu â mi yma yng Nghymru ac ym mhob cwr o'r byd. Mae wedi bod yn syndod ac yn llawenydd derbyn cardiau ac e-byst gan bobl nad ydw i wedi'u gweld ers yr ysgol uwchradd, ers fy nyddiau yn y Coleg Cerdd Brenhinol ac yn ystod fy neng mlynedd ar hugain o weinidogaeth ym Manceinion. Mae wedi bod yn gyfnod o ailgysylltu ac mae hynny'n deimlad bendithiol dros ben.
Yn fwy na dim, bu’n anogaeth a chalondid i mi glywed pobl yn dweud eu bod yn gweddïo drosof, yn enwedig y rhai sy’n methu â derbyn ordinhad menywod, heb sôn am dderbyn ethol menyw yn esgob ac archesgob; ac eraill sy'n cael trafferth gyda'r ffaith fod yna Archesgob yng Nghymru bellach sydd nid yn unig yn aelod o'r gymuned LHDTCRh+ ond sydd hefyd yn byw mewn Partneriaeth Sifil. Diolch am eich graslonrwydd ac am sicrwydd eich gweddïau. Mae'n rhoi gobaith i mi y gallwn yng nghanol ein gwahaniaethau estyn allan mewn gweddi a thrwy hynny adeiladu dyfodol gobeithiol gyda'n gilydd. Ond mwy am hynny maes o law.
Yn gyntaf, fodd bynnag, mae'n bwysig cydnabod na wnaeth yr un ohonom yn Llandudno, pan fu i ni gyfarfod diwethaf, ddarogan y byddwn i’n sefyll yma heddiw o’ch blaen fel hyn. Bu newid aruthrol ym mywyd ein Talaith, newid a ddaeth â phoen a dryswch i lawer ohonom. Mae hyn wedi cael effaith ar bob un ohonom ac mae angen i ni gydnabod hynny. Mae penderfyniad yr Archesgob Andy i ymddeol yn dilyn ei ymddiheuriad diffuant wedi effeithio ar y Dalaith ac, yn fwyaf arbennig, ar Esgobaeth Bangor.
Ei weinidogaeth fel Archesgob oedd fy mhrofiad i o wasanaeth Andy ac rwyf am dalu teyrnged iddo am y gwaith hwnnw, yn enwedig mewn perthynas â’r Fainc sydd bellach yn wahanol iawn i'r grŵp yr ymunais ag ef yn ôl yn 2020. Anogodd ffocws ar weddi, myfyrdod a sgwrs onest. O dan ei arweinyddiaeth rydyn ni’n raddol wedi gallu bod yn fwy agored a bregus gyda'n gilydd a herio’n gilydd yn dyner pan fyddwn yn teimlo'r angen. Mae'n teimlo'n lle da i fod. Rydw i, a chredaf fod y lleill hefyd, bellach yn edrych ymlaen at ein cyfarfodydd gyda'n gilydd. Ac rwy'n ddiolchgar am ei amser gyda ni ac am y gwaith y bu modd i ni ei wneud gyda'n gilydd.
Rwy’n gofyn i chi weddïo dros Andy a Naomi, a hefyd, wrth gwrs, dros yr Esgob David wrth iddo geisio dirnad ble mae Duw bellach yn ei alw i wasanaethu. Gwn y byddai'n croesawu ac yn gwerthfawrogi eich gweddïau yn fawr.
Gofynnwn am weddïau hefyd dros esgobaeth Bangor wrth iddyn nhw geisio gweithio drwy'r heriau niferus, cymhleth a hirsefydlog a wynebant, a gwneud hynny heb esgob, heb ysgrifennydd esgobaethol a Deon sydd wedi'i drwyddedu'n ddiweddar. Rwy'n ddiolchgar i'r Archddiaconiaid sy'n gweithredu fel fy nghomisariaid yn yr esgobaeth hyd nes y bydd esgob newydd yn cael ei ethol. Maen nhw wedi ysgwyddo rolau ychwanegol sylweddol a’u cyflawni hyd eithaf eu gallu. Mae cymorth a chefnogaeth hefyd yn cael eu cynnig gan staff Sgwâr Callaghan a’r esgobaethau eraill i geisio cael esgobaeth Bangor yn ôl ar ei thraed. Ond mae'n mynd i gymryd amser hir, felly cofiwch weddïo drostyn nhw.
Felly, gadewch i ni droi at ein dyfodol. Mae rhai eisoes wedi gofyn i mi beth fydd fy mlaenoriaethau fel Archesgob ac rwyf am ddechrau cyflwyno rhywfaint o gefndir myfyriol i'r hyn y credaf y dylai ein blaenoriaethau fod fel eglwys. Yn fy natganiad i'r coleg etholiadol yn ôl ym mis Gorffennaf, dywedais hyn:
Os caf fy ethol i fod yn Archesgob, byddaf yn neilltuo'r tair blynedd nesaf i drawsnewid diwylliant yr Eglwys yng Nghymru. Dyma, rwy'n credu, yw'r peth pwysicaf y mae'n rhaid i ni ei wneud gyda'n gilydd. Oherwydd, fel y gwelsom, mae'r holl straeon newyddion da, yr holl weithgarwch cenhadol, yr holl waith gwych sy'n cael ei wneud yn ein heglwysi a'n cymunedau lleol yn cael eu tanseilio a'u cuddio o dan fôr o benawdau dychrynllyd a straeon newyddion drwg. Fyddwn ni byth yn ffynnu fel sefydliad a chawn ni fyth yr hygrededd i siarad yn y parth cyhoeddus am gariad Duw tuag at greadigaeth Duw oni bai ein bod yn datblygu diwylliant, ffordd o fod ac o ymddwyn, sy'n 'adlewyrchu natur Duw fel y gwelwn yn Iesu Grist'.
Ac felly dyma’r tri maes yr wyf am siarad amdanyn nhw heddiw: 1) Gofalu am ein diben craidd fel eglwys Dduw; 2) Gofalu am ein perthynas â'n gilydd; a 3) Gofalu am ein hunain a'n perthynas unigol ein hunain â Duw.
Mae gofalu am ein diben craidd yn galw am fwy na dim ond cyhoeddi newyddion da Iesu Grist. Mae'n galw am i ni fyw ein bywyd mewn ffordd amlwg sy’n cyfleu’r newyddion da rydyn ni’n ei gyhoeddi. Dywedir bod 'yr Eglwys yn cael ei galw i fod yn gymuned o ddisgyblion sy'n caru ei gilydd ag angerdd Iesu ac, yn eu cariad angerddol am y byd, yn datgelu i'r byd ei fod yn cael ei garu.' Mae hynny'n ymddangos i mi fel cynnig da ar gyfer datganiad cenhadaeth: Disgyblion Iesu sy'n caru ei gilydd fel y mae Iesu yn eu caru hwy, sy'n caru'r byd a greodd Duw, yn ei gariad a thrwy ei gariad, ac wrth wneud hynny sy’n dangos i'r byd cymaint y mae Duw yn ei garu. Mae cariad yn newid pethau. Mae cariad yn ein trawsnewid ni a'r ffordd rydyn ni’n byw ac yn ymddwyn. Mae cariad yn ein gorfodi i estyn allan y tu hwnt i ni ein hunain at eraill ac at y byd y mae Duw wedi'i roi i ni.
Y ddelwedd sy'n crynhoi hyn, delwedd y mae Sant Paul yn sôn amdani mewn nifer o'i lythyrau, yw Corff Crist. Mae'n sôn am gorff gyda llawer o rannau, pob rhan â’i swydd unigryw ei hun i'w chyflawni a’r naill yn dibynnu ar y llall er mwyn i'r corff fod yn gyfan. Er mwyn i'r corff weithio'n dda ac ar ei orau, mae angen i'r rhannau weithio mewn cytgord â'i gilydd. Mae'r rhyng-gysylltiad hwnnw'n hanfodol. Ni all unrhyw ran weithio ar ei phen ei hun ac os yw un rhan wedi'i chleisio, ei thorri neu ei difrodi, yna mae'r corff cyfan yn cael ei effeithio - boed yn bothell ar eich sawdl, yn gyhyr wedi'i dynnu yn eich ysgwydd neu fflewyn yn eich bawd. Pan fydd un rhan yn dioddef, mae'r corff cyfan yn dioddef. Ond gallwn achosi dioddefaint i ni ein hunain ac i eraill trwy ein hagwedd a'n hymddygiad – yn aml heb sylweddoli hynny.
Un o'r cyfnodau mwyaf ffurfiannol yn fy ngweinidogaeth yw'r 6 blynedd a dreuliais yn gweithio fel Caplan i'r Gymuned Fyddar ym Manceinion. Fe gychwynnais yn llawn brwdfrydedd o fod eisiau gweithio gyda'r grŵp ymylol hwn o bobl, ond roedd gen i agweddau a rhagdybiaethau y sylweddolais yn ddiweddarach eu bod yn drahaus a nawddoglyd. Fel llawer yn y weinidogaeth, deuthum i weld bod gen i lawer mwy i'w ddysgu ganddyn nhw nag oedd ganddyn nhw i’w ddysgu gen i; nid yn unig oherwydd yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn fyddar ac ymylol, ond hefyd am Dduw ac am weddi ac am yr hyn y gall grŵp dominyddol (yn yr achos hwn pobl sy'n clywed) ei wneud i bobl sy'n wahanol (yn yr achos hwn pobl Fyddar o'u geni). Sylweddolais fod yn rhaid i mi gwrdd â nhw yn eu sefyllfa nhw a gwrando ar hanesion eu bywyd. Hanes am gael y gansen yn yr ysgol am ddefnyddio iaith arwyddion - roedden nhw yno i ddysgu siarad ac er mwyn dod yn eu blaenau yn y byd roedd rhaid iddyn nhw allu siarad fel y mwyafrif sy’n clywed. Fe fydden nhw’n cael eu gwahardd, eu gwneud i deimlo'n dwp am nad oedden nhw’n gallu clywed ac felly allen nhw ddim ymuno - ond prin iawn, os o gwbl oedd y rhai a geisiodd eu deall. Roedd eu cyrhaeddiad addysgol yn isel oherwydd bod popeth yn cael ei ddysgu trwy eiriau; geiriau llafar ac ysgrifenedig oedd yn bethau anodd iddyn nhw eu deall. Wedi'r cyfan, rydyn ni'n dysgu siarad a darllen trwy wrando.
Ond roedden nhw hefyd wedi cael eu dysgu am y Duw sy'n gwrando ac sy'n siarad, ac am Iesu a oedd yn iacháu pobl oedd yn fyddar a heb leferydd. Roedd Duw, felly, yn gallu clywed; roedd yn rhan o'r grŵp dominyddol yr oedden nhw’n teimlo eu bod wedi'u heithrio oddi wrtho. Ble oedd y newyddion da i bobl a anwyd yn fyddar? Un o'r cwestiynau mwyaf ingol a gefais erioed oedd, Ydy Duw yn deall ein hiaith arwyddion? Oherwydd, wrth gwrs, dydy’r mwyafrif o bobl sy'n gallu clywed ddim yn ei deall hi, na chwaith yn malio rhyw lawer.
Ond roedden nhw - y gymuned Fyddar hon - yn fy ngharu i; er fy ‘mod i’n 'rhywun o’r tu allan’ yn eu golwg nhw. Fe wnaethon nhw fy nghroesawu er gwaethaf fy iaith arwyddion lefel 1 a oedd yn gwbl annigonol ar gyfer y gwaith roeddwn i'n cael fy ngalw i'w wneud fel eu Caplan. Dysgais sut deimlad yw peidio â pherthyn, bod yn y lleiafrif a theimlo wedi fy eithrio. Fe wnaethon nhw ddysgu i mi pa mor bwysig yw sefyll ochr yn ochr, cwrdd â phobl lle maen nhw ac nid lle rydych chi'n meddwl y maen nhw, a gweld gwahaniaeth ac amrywiaeth nid fel bygythiad ond fel rhodd sy'n cyfoethogi ac sy'n gallu bod yn drawsnewidiol.
Mae cynifer o bobl, cynifer o grwpiau o bobl sydd ar yr ymylon yn ein byd heddiw ac yma yng Nghymru, sydd wedi cael eu gwthio i'r ochr, wedi cael eu gwneud i deimlo nad oes unrhyw werth iddyn nhw, eu lleisiau wedi'u tawelu neu heb eu clywed: pobl sy'n byw mewn tlodi, sy'n ddigartref, sy'n dioddef problemau iechyd meddwl, sydd mewn rhyw ffordd yn anabl – ac eraill oherwydd eu rhywioldeb a'u rhywedd.
Mae cynifer o bobl yn chwilio am newyddion da - am y newyddion da - ac eto, pa mor aml ydyn ni'n mynd ati, fel y gwnes i gyda'r Gymuned Fyddar, yn tybio ein bod ni'n gwybod beth sydd ei angen arnyn nhw, yn tybio ein bod ni'n gwybod beth sydd orau iddyn nhw, eisiau gwneud drostyn nhw ac iddyn nhw heb aros yn gyntaf i wrando, i gwrdd â nhw lle maen nhw, eu gwerthfawrogi a'u caru am bwy ydyn nhw a chaniatáu iddyn nhw ein newid a'n siapio a'n ffurfio i fod yn debyg i Grist. Oherwydd fel y gwelais yn fy ngwaith gyda'r Gymuned Fyddar, mae gennym ni gymaint i'w ddysgu ganddyn nhw, â hwythau hefyd yn blant i Dduw ac wedi'u gwneud ar ddelw Duw, ag sydd ganddyn nhw i’w ddysgu gennym ni. Dyma yw cenhadaeth. Fel y darllenais y diwrnod o'r blaen, 'Dim ond pan ellir gweld yr eglwys yn bod yn eglwys y gall pobl gael eu perswadio mai dyma’r eglwys. Rhaid gweld cariad Iesu i'w gredu.' Rhaid i ni roi sylw i’n hagweddau ac i’n hymddygiad, i’n rhagdybiaethau a'n rhagfarnau diarwybod sydd mor fynych yn gallu rhwystro cariad Duw rhag cael ei ddangos a'i rannu.
Y diwrnod o'r blaen cefais fy nghyfweld gan fyfyriwr 19 oed o Brifysgol Rhydychen. Cefais fy nharo’n arbennig o gryf gan un o’r cwestiynau a ofynnodd i mi. 'Gyda chynnydd mewn rhethreg ymrannol ac eithafiaeth yr asgell dde, yn enwedig ar ôl i Gymru yn ddiweddar weld y gynhadledd fwyaf erioed ar gyfer y Blaid Reform, sut gall yr eglwys ymateb i’r naratifau gwaharddol hyn a llwyddo i feithrin undod, diogelwch ac ymdeimlad o berthyn i bawb sy’n dymuno addoli?' Tipyn o gwestiwn!
Cefais fy hun yn siarad am y stori y mae'n rhaid i ni ei hadrodd. Stori sy'n gynhwysol ac yn holl-gofleidiol. Stori am gariad Duw at y byd a greodd; cariad diddiwedd a thragwyddol at bob bod dynol, y credwn iddo ei lunio ar ddelw Duw. Cawn ein galw nid yn unig i adrodd y stori honno ond i'w byw hi trwy wneud popeth y gallwn ni i adeiladu pontydd rhwng pobl yn hytrach na'u rhannu. Cawn ein galw i fod yn gymodwyr, fel yr anogodd Sant Paul y Cristnogion yng Nghorinth i fod. Oherwydd mae Duw, sydd wedi ein cymodi ni ag ef ei hun trwy Grist, wedi rhoi i ni weinidogaeth gymod; gan annog pobl i gymodi nid yn unig â Duw, ond â'i gilydd.
Mewn byd lle mae pobl, cymunedau a chenhedloedd yn mynd yn fwy rhanedig a’u barn yn pegynnu, rhaid ymorol a siarad o blaid heddwch, cymod a chydlyniant cymunedol, gan gydnabod bod pob bod dynol o werth cyfartal a bod pob yr un ohonom yn haeddu parch ac urddas. 'Mae'r Eglwys yn cael ei galw i fod yn gymuned o ddisgyblion sy'n caru ei gilydd ag angerdd Iesu ac, yn eu cariad angerddol am y byd, yn datgelu i'r byd ei fod yn cael ei garu.' Mae'n stori sy'n croesawu pawb.
Ac, fel y mae'r datganiad hwnnw'n awgrymu, rhaid i ni ein hunain fod yn batrwm o hynny yn ein hymwneud â'n gilydd o fewn teulu’r eglwys gan ofalu am ein perthynas â'n gilydd. Nid yw'r eglwys yn ddim gwahanol i gymdeithas o ran ei bod yn cael trafferth ymdrin â phobl sy'n cael eu hystyried yn wahanol. Ond rydyn ni'n cael ein galw i adeiladu cymuned, cymuned o ffydd a gobaith a chariad, ac mae hynny'n golygu dysgu caru ein cymydog fel ni ein hunain – hyd yn oed y rhai nad ydyn ni’n eu hoffi, neu nad ydyn ni’n eu deall, neu y byddai'n well gennym eu hosgoi. Hyd yn oed y rhai rydyn ni’n anghytuno â nhw.
Mae dysgu caru yn cymryd amser. Mae'n ffordd hir ac anodd, sy'n gofyn am amynedd, caredigrwydd, dyfalbarhad. Weithiau, maddeuant, a gobaith bob amser. Ond mae yn bosibl.
Bydd rhai ohonoch wedi fy nghlywed i’n siarad o'r blaen am y grŵp bach a ffurfiwyd ym Manceinion yng nghanol y 1990au, yn fuan ar ôl i'r menywod cyntaf gael eu hordeinio i'r offeiriadaeth. Roedd nifer sylweddol o offeiriaid yn yr esgobaeth yn gwrthwynebu ordeinio menywod ac yn teimlo'n ddig, wedi’u bradychu ac wedi’u hynysu yn sgil penderfyniad yr eglwys ac, mewn cynhadledd o glerigion, roedd y rhaniad rhwng y rhai o blaid ordeinio menywod a'r rhai a oedd yn gwrthwynebu yn hynod amlwg. Doedd pobl yn gwneud fawr ddim â neb arall, yn y bar, yn y bwyty, yn y sesiynau ac yn yr Ewcharist lle nad oedd yr heddwch yn cael ei rannu a’r dynion ddim yn derbyn cymun. Yn hytrach, roedden nhw’n cynnal eu Cymun eu hunain.
Gan gydnabod bod y rhaniad hwn o fewn corff Crist yn niweidiol iawn ac yn debygol o waethygu, cytunodd grŵp bach ohonom i gyfarfod. Roedd pedair yn fenywod wedi eu hordeinio a phedwar yn ddynion a oedd yn gwrthwynebu ordeinio menywod.
Cytunwyd y byddem yn cwrdd, nid i geisio newid meddyliau ein gilydd ond i chwilio am ffordd ymlaen gyda'n gilydd a fyddai rhywsut yn batrwm o undod yng Nghrist, er gwaethaf ein safbwyntiau cryf ac ymddangosiadol anghyson. Dair gwaith y flwyddyn trefnwyd i ni gyfarfod i weddïo, i rannu cinio ac i siarad. Roedd y blynyddoedd cyntaf yn hynod letchwith ac anghyfforddus, ond fe wnaethom ni ddyfalbarhau. Ac yn raddol, wrth i ni wrando ar ein gilydd, ceisio deall sefyllfa ein gilydd, a dysgu gweld ein gilydd fel chwiorydd a brodyr yng Nghrist, datblygodd ein cyfeillgarwch. Fe wnaethom ni ddod o hyd i iachâd ac ymdeimlad o berthyn gyda'n gilydd. Fe wnaethom ni gynnal gwylnos o weddi a oedd yn cryfhau ein cwlwm o anwyldeb at ein gilydd ac yn denu eraill i mewn ar y daith yr oeddem yn ei chymryd. Roedd gwrando ar ein gilydd, cwrdd â'n gilydd lle roedden ni a cheisio caru a deall ein gilydd yn drawsnewidiol nid yn unig i ni ond i'r esgobaeth gyfan. Roedden ni wedi teithio’n bell iawn o'r cyfnod pan oedden ni'n ofni ein gilydd ac yn dibrisio ein gilydd.
Pan ddes i yma i Gymru, roedden ni wedi bod yn cyfarfod am fwy nag 20 mlynedd, ac roedden ni'n hoff iawn o'n gilydd. Yn wir, roedd rhai o'r dynion hynny ymhlith y cyntaf i ysgrifennu ataf i'm llongyfarch ar gael fy ethol yn Archesgob, ac roedd hynny’n brofiad twymgalon iawn.
'Dim ond pan ellir gweld yr eglwys yn bod yn eglwys y gall pobl gael eu perswadio mai dyma’r eglwys. Rhaid gweld cariad Iesu i'w gredu.'
Ac mae gennym gyfle i wneud rhywbeth tebyg yma, yn yr Eglwys yng Nghymru, nid yn unig wrth i ni drafod perthnasoedd o'r un rhyw a phriodas gyfartal, ond wrth i ni wynebu'r nifer o heriau eraill sydd o'n blaenau. Sut ydyn ni'n byw gyda'n gilydd fel Ardaloedd Gweinidogaeth/Cenhadaeth, fel esgobaethau, fel talaith, mewn ffordd sy'n fwy rhyng-gysylltiedig a rhyng-ddibynnol – yn batrwm o gorff Crist lle mae pob aelod yn cael ei werthfawrogi a phob un yn gweithio'n effeithiol ac yn effeithlon gyda'i gilydd? Beth yw'r gwerthoedd a'r rhinweddau rydyn ni'n eu gweld ym mywyd a dysgeidiaeth Iesu yr ydyn ni am eu dangos a'u byw fel eglwys? Sut ydyn ni'n sicrhau bod pŵer yn cael ei ddefnyddio'n dda ac yn ddoeth, y gallwn ddal ein gilydd i gyfrif a'n bod yn ymdrin â’n gilydd bob amser gyda thosturi a gostyngeiddrwydd – gan drin ein gilydd fel yr hoffem ni ein hunain gael ein trin?
Byddwn yn cael y cyfle i drafod y pethau hyn yn fwy llawn ar ôl yr egwyl. Ond dim ond megis dechrau ar y gwaith sydd angen i ni ei wneud gyda'n gilydd yw hyn. Mae angen i ni ofalu am ein perthynas â'n gilydd gymaint ag y mae angen i ni ofalu am ein diben craidd, oherwydd mae'r ddau wedi'u cydblethu. Mae ein stori yn cael ei thanseilio pan welir ein bod yn amddiffyn ein hunain, yn cuddio gwirioneddau anghyfforddus ac yn cadw'n dawel yn wyneb camwedd. Caiff ein cenhadaeth ei thanseilio pan na welir Cristnogion yn gwneud yr hyn maen nhw’n ei ddweud, hyd yn oed ymhlith ein gilydd.
Dyna wych fyddai sefyllfa lle mae'r rhai sy'n edrych i mewn o'r tu allan yn gallu dweud, 'Edrychwch sut mae'r Cristnogion hyn yn caru ei gilydd, er gwaethaf y gwahaniaethau a'r anghydweld.'
Felly sut ydyn ni'n dysgu caru ein gilydd gyda chariad radical, angerddol, digyfaddawd Iesu? Rydyn ni'n gwneud hynny trwy ofalu am ein hunain a'n perthynas ein hunain â Duw. Mae hyn hefyd yn rhan o'n diben craidd. Oherwydd dim ond wrth i ni ymdebygu fwyfwy i Grist y gallwn ni mewn gwirionedd fod yn ddwylo a thraed iddo yn y byd. Mae ein bywyd o weddi, fel disgyblion unigol ac yn gorfforaethol fel corff Crist, yn hanfodol i'n cenhadaeth a'n gweinidogaeth. Oherwydd mae gweddi yn ein clymu wrth ein gilydd ac yn cryfhau ein perthynas â'n gilydd, fel y gwelais yn y modd mwyaf dwys wrth i'r grŵp bach hwnnw ohonom gyfarfod ym Manceinion. Mae'n helpu i adeiladu cymuned ac yn ein hatgoffa, pwy bynnag ydyn ni a pha mor wahanol bynnag ydyn ni, ein bod ni serch hynny yn unedig fel plant i'r un tad nefol. Nid dim ond amnaid ar Dduw yw ein bod yn cyd-weddïo cyn mynd ati i drafod y busnes sydd dan sylw. Mae’n ein galw i gadw ein golygon ar Iesu, sef canolbwynt y cyfan a wnawn. Beth bynnag fo’n hagenda, rydyn ni’n cael ein tynnu trwy ein gweddi at yr un rydyn ni’n byw yn ei fyd, yr un yr ydyn ni’n rhan o’i eglwys a’r un yr ydyn ni’n perthyn i’w bobl.
Bydd rhai ohonoch chi’n gwybod am yr adnod o'r ysgrythur rwy'n ei chario o gwmpas gyda mi o lythyr cyntaf Paul at y Thesaloniaid lle mae yn annog ei ddarllenwyr fel hyn: 'gweddïwch yn ddi-baid'. (I Thes 5:17) Rydyn ni i fod yn bobl sydd wedi ein cysylltu â Duw, wedi ein tiwnio i Dduw bob amser ac ym mhob man; yn dysgu dirnad ei bresenoldeb o’n mewn ac o'n cwmpas ble bynnag rydyn ni a beth bynnag rydyn ni'n ei wneud. Mae'r salmydd yn gweddïo, 'O Arglwydd, dysg i mi dy ffordd, imi rodio yn dy wirionedd; rho imi galon unplyg i ofni dy enw....' (Salm 86:11) Ac rydyn ni’n cael ein gwahodd i weddïo yn yr un modd: rho i mi galon unplyg, er mwyn i ni gael ein tynnu'n ddyfnach i gymundeb â Duw a bod yn gyfryngau i’w gariad cymodlon.
Fy ngweddi am y tair blynedd nesaf yw y gallwn, fel unigolion a gyda'n gilydd ar draws Talaith Cymru gyfan, ganiatáu i ni ein hunain gael ein plygu a'n newid i ymdebygu fwyfwy i Grist yn ein bywydau, yn ein perthynas â'n gilydd ac yn y genhadaeth y mae Duw wedi'i hymddiried i ni.
Iddo ef, sydd â'r gallu ganddo i wneud yn anhraethol well na dim y gallwn ni ei ddeisyfu na'i ddychmygu, trwy'r gallu sydd ar waith ynom ni, iddo ef y bo'r gogoniant yn yr eglwys ac yng Nghrist Iesu, o genhedlaeth i genhedlaeth, byth bythoedd! Amen. (Eff 3: 20,21)
+ Cherry Cambrensis
Medi 2025