Adeiladau eglwysig
Canllawiau pellach oddi wrth Fainc Esgobion
Mae pob adeilad eglwysig yn parhau i fod ar gau nes bydd rhybudd pellach. Mae hyn yn golygu na ddylai eglwysi fod yn agored ar gyfer addoliad cyhoeddus nac ar gyfer gweddi bersonol.
Mae trafodaethau manwl yn cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru ynghylch ailagor posib eglwysi dan arweiniad yr Archesgob gyda'r Fforwm Cymunedau Ffydd. Mae protocol ar gyfer ailagor yn cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru yng nghyd-destun y gyfundrefn ddeddfwriaethol benodol yng Nghymru.
Bydd y protocol hwn yn llywio canllaw yr Eglwys yng Nghymru ar sut y gellir ailagor eglwysi yn ddiogel. Bydd y canllaw hwn yn offeryn ymarferol i'n helpu i gynllunio ailagor yn y dyfodol a lliniaru'r risg o drosglwyddo Covid-19. Bydd y canllaw yn canolbwyntio ar weithdrefnau ar gyfer pellhau cymdeithasol, hylendid a glanhau adeiladau.
Pan fydd y gyfraith yn caniatáu, rydym yn rhagweld agor eglwysi yn raddol yn seiliedig ar arddangosiad clir o gydymffurfiad â'r protocol a'r arweiniad. Ein prif bryder yw iechyd y rhai a fydd yn defnyddio ein heglwysi eto.
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru na fydd newid i’r rheolau cyfredol yng Nghymru, tan i’w Phrif Weinidog wneud ei ddatganiad nesaf ar 18fed Mehefin.