De Swdan yn wynebu anhrefn hinsawdd
Gyda COP26 yn dod i ben gyda chanlyniadau cymysg - rhaid yn dda, eraill yn sicr ddim - bydd Cymorth Cristnogol yn parhau i bwyso ar y llywodraeth ar y mater pwysig hwn. Yn benodol, mae sicrhau cefnogaeth ddigonol ar gyfer y gwledydd bregus hynny sy’n wynebu colled a difrod wedi ei achosi gan yr argyfwng hinsawdd.
Trwy ei bartneriaid, mae Cymorth Cristnogol ei hun yn parhau i weithio yn rhai o gymunedau tlotaf y byd, gan sefyll gyda hwy i ymladd effeithiau hinsawdd sy’n newid. Caiff un enghraifft ei arddangos yn Apêl Nadolig Cymorth Cristnogol eleni. Yn Ne Swdan - sydd hefyd yn ffocws Apêl Canmlwyddiant yr Eglwys yng Nghymru - mae cymunedau’n brwydro gyda sychder a llifogydd.
Un effaith patrwm tywydd ansicr fel hyn yw bod dŵr yfed yn cael ei effeithio’n enbyd. I fam fel Adut, yn y llun, golyga hyn orfod wynebu dewisiadau amhosibl. Fyddai hi’n bygwth iechyd ei phlant trwy roi dŵr budr iddynt, ynteu beidio â rhoi dŵr o gwbl iddynt?
Newidiodd bywyd Adut pan adeiladodd ‘Support for Peace and Education Development Program’ - partner lleol Cymorth Cristnogol - dwll turio yn ei phentref. Trwy ddefnyddio pwmp llaw, mae gan Adut a’i chymdogion fynediad i ddŵr dibynadwy a glân. Dyma’r fath o ymyriad sy’n newid bywyd mewn ffordd radical.
Wrth i newid hinsawdd barhau i greu hafog a gwneud tlodi eithafol yn waeth, mae rhaglenni fel hyn yn gyfraniad holl bwysig i’r gwaith o helpu’r cymunedau mwyaf bregus i addasu.
Am fwy o wybodaeth am Apêl Nadolig Cymorth Cristnogol a sut y gallwch chi helpu cymunedau fel un Adut, os gwelwch yn dda ewch i https://www.christianaid.org.uk/appeals/key-appeals/christmas-appeal