Sioe Ben Ffordd Digwyddiadau Bywyd Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu
Ymgasglodd pum deg o glerigwyr a leygwyr o Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu yn Theatr Brycheiniog Aberhonddu yn ddiweddar er mwyn dysgu rhagor am Digwyddiadau Bywyd a sut mae hi’n bosibl i glerigwyr a lleygwyr gyfoethogi profiad y bobl sydd yn gofyn i’r Eglwys yng Nghymru am fedydd, priodas ac angladdau. Cafodd y diwrnod ei arwain gan y Barchedig Ganon Ddr Sandra Millar, Pennaeth Digwyddiadau Bywyd yn yr Eglwys Loegr a’r Parchedig Chris Burr, Tiwtor mewn Datblygiad Gweinidogaethol yn Athrofa Padarn Sant. Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi addasu adnodau sydd yn dod allan o ymchwil ymysg y rhai sydd wedi gofyn yr Eglwys am fedydd, priodas ac angladdau. Mae’n waith craidd ym mywyd yr Eglwys yng Nghymru a’i phobl, a felly, mae hi’n hanfodol i’r Eglwys ystyried sut mae’r pethau hyn yn cael eu gwneud.
Mae pob Ardal Weinidogaeth yn yr Esgobaeth wedi derbyn adnoddau ar gyfer Digwyddiadau Bywyd a fel rhan o hwn, mae llyfr gwaith gyda chwestiynau a syniadau i eglwysi ddefnyddio. Roedd nifer o fewnwelediadau yn ystod y dydd i’r rhai a oedd yn bresennol yn ystyried y ffaith bod cyd-destun yr weinidogaeth hon wedi newid sut gymaint yn ystod degawdau diweddar.