Cerrig Milltir Allweddol ym Mhrosiect Cadeirlan Aberhonddu a Ariennir gan Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Mae Cadeirlan Aberhonddu wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn ei phrosiect ‘Cadeiriol | Cariad | Cymuned: Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, Calon ac Enaid y Gymuned’ a ariannwyd gan Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol gyda’r nôd o ddenu mwy o ymwelwyr i’r gadeirlan 1,000 oed drwy gyfuniad o ddehongliadau newydd a ymgysylltu, mynediad cyfartal newydd i'r tu mewn, a gwelliannau mawr i'r tô, gan adeiladu ar y gwaith a wnaed ddiwethaf gan y Fictoriaid.
Mae Stephen Oliver o Oliver Architecture wedi’i benodi i rôl y pensaer arweiniol ac mae Nick Cragg ac Andre-Paul Tsobgny o Cragg Management wedi’u penodi i rôl Rheolwr Prosiect ar gyfer y prosiect mawreddog hwn.
Mae Stephen Oliver, pensaer ag achrediad cadwraeth ac ymgynghorydd adeiladau hanesyddol, wedi bod yn Bensaer Cadeirlan Aberhonddu ers wyth mlynedd ac ef oedd yn gyfrifol am y cynllun llwyddiannus a gyflwynwyd i Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae’n gofalu am lawer o eglwysi’r Gororau ac mae hefyd yn Bensaer Cadeirlan i Gadeirlan Peterborough, un o adeiladau canoloesol mawr Lloegr.
Mae Nick Cragg ac Andre-Paul Tsobgny, gyda dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad ym maes rheoli treftadaeth a’r celfyddydau rhyngddynt, wedi gweithio ar ddwy eglwys gadeiriol fawr yn Lincoln a St Albans, yn ogystal â theatrau, amgueddfeydd, a hyd yn oed castell.
Dywedodd Deon Aberhonddu, Dr Paul Shackerley, “rydym yn arbennig o falch o sicrhau Stephen Oliver ar gyfer y prosiect gan ei fod wedi bod yn allweddol o’r cychwyn, a’i gynigion ef a arweiniodd at ddyfarnu grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd ond yn adeiladu ar y llwyddiant y mae wedi dod ag ef mor bell â hyn.”
“Rydym hefyd yn croesawu Nick Cragg ac Andre-Paul Tsobgny i’r tîm gyda’u profiad trawiadol a hynod berthnasol. Nid oes unrhyw ddwy eglwys gadeiriol yr un fath, ond rydym wedi dewis rheolwyr prosiect sydd â chefndir anhygoel o weithio ar yr adeiladau godidog hyn. Byddant yn dod â llawer iawn i’r prosiect, ac rydym yn teimlo’n ffodus iawn ein bod wedi sicrhau’r ddau ohonynt.”
“Cam nesaf y prosiect yw cyflwyno ail gais i Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am yr arian sydd ei angen i gyflawni’r holl ganlyniadau rydym wedi’u nodi. Bydd Stephen, Nick, ac Andre-Paul yn benodiadau allweddol i gyflawni’r nôd hwn ac ni allwn aros i ddechrau.”