Ymunwch ag esgobion Cymru ar daith drwy’r Adfent
Mae esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn gwahodd pobl i ymuno â nhw wrth iddynt ymchwilio gwir ystyr y Nadolig mewn cwrs newydd ar gyfer yr Adfent.
Mae O Deuwch ac Addolwn yn gwrs chwe wythnos drwy dymor yr Adfent hyd at y Nadolig ac ymlaen i’r Epiffani. Ar gael ar hyd a lled Cymru, mae’r cwrs yn cynnwys darlleniadau o’r Beibl, myfyrdodau, gweddïau a chwestiynau trafod gyda phob sesiwn yn cael ei harwain gan un o’r esgobion a phobl o’u hesgobaeth. Ymysg y themâu a ymchwilir mae newid hinsawdd, gwrthdaro, pererindod, lleoedd gwyllt a chyfarfodydd gydag eraill.
Gellir cwblhau’r cwrs mewn grwpiau astudio, yng nghymunedau’r eglwys neu adref. Mae’r holl ddeunyddiau yn hollol ddwyieithog a gelir eu lawrlwytho o 1 Tachwedd o wefan yr Eglwys yng Nghymru yma.
- https://www.churchinwales.org.uk/cy/evangelism/o-come-let-us-adore-him-advent-course-2024/
- Gwyliwch y promo
Wrth lansio’r cwrs, dywedodd Archesgob Cymru, “Mae hwn yn wahoddiad i ddod ar daith drwy dymor yr Adfent wrth i ni aros yn ddisgwylgar am ddyfodiad Crist fel Brenin. Mae’n wahoddiad i fyfyrio ar themâu allweddol fel cariad, llawenydd, heddwch, amynedd, y mae genedigaeth Iesu yn eu sbarduno i gyd. Felly, p’un ai a ydych chi’n bwriadu gwneud y cwrs hwn eich hun neu’n dod â grŵp at ei gilydd, mae’n gyfle i ni dyfu’n ysbrydol a dod yn nes at Dduw. Dewch, dewch â grŵp at ei gilydd, paratowch ar gyfer yr Adfent, ac O Deuwch ac Addolwn.”
Bydd y cwrs yn dechrau gyda chyflwyniad gan yr Archesgob Andrew. Caiff y sesiwn gyntaf, ar gyfer Adfent 1, ei harwain gan yr Esgob Gregory Cameron ac Esgobaeth Llanelwy. Mae’n ymchwilio Luc 21:25-36 a’i delweddau apocalyptaidd heriol, ac mae’n cynnwys cyfweliadau gyda phobl am eu profiadau yn delio gyda rhyfel a newid hinsawdd.
Mae’r ail sesiwn, ar gyfer Adfent 2, gyda’r Esgob Cherry Vann ac Esgobaeth Mynwy. Mae’n edrych ar Luc 3:1-6 a’r ffordd y mae’r adnodau’n dangos y byd y mae Ioan Fedyddiwr ac Iesu yn addysgu ynddo – byd o Ymerodraeth a gorthrwm. Mae’r drafodaeth yn canolbwyntio ar y gorthrwm a welwn yn ein byd heddiw, a sut y gallwn ddefnyddio ein ffydd i ddeall a datgymalu systemau gormesol.
Mae’r drydedd sesiwn, Adfent 3, gyda’r Esgob John Lomas ac Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Mae’n ymchwilio Luc 3:7-18 a ffigur rhyfedd Ioan Fedyddiwr, yn addysgu yn yr anialwch Bydd yn edrych ar ffyrdd y gallwn addysgu a dysgu yn y lleoedd gwyllt.
Mae’r bedwaredd sesiwn, Adfent 4, gyda’r Esgob Mary Stallard ac Esgobaeth Llandaf. Mae’n edrych ar Luc 1:39-45, gan ymchwilio’r cyfarfyddiad rhwng Mary a’i chyfnither Elisabeth tra’r oeddent yn feichiog gyda Iesu ac Ioan Fedyddiwr.
Mae’r bumed sesiwn, ar gyfer y Nadolig, gyda’r Esgob Dorrien Davies ac Esgobaeth Tyddewi. Mae’n ymchwilio Luc 2:1-20 a stori’r bugeiliaid yn ymweld â’r baban Iesu. Mae’n trafod yr heddwch ac undod y dylem ymdrechu ei gael yn ein cymunedau.
Mae’r chweched sesiwn, ar gyfer Epiffani, gyda David Morris, Esgob Enlli ac Esgobaeth Bangor. Mae ei ffocws ar Mathew 2:1-12, ac ymweliad y Doethion â’r baban Iesu. Mae’n edrych ar eu taith ac yn rhoi sylw i bobl sy’n mynd ar bererindod heddiw.