Sicrhau cyfiawnder i bobl fel Rose - Wythnos Cymorth Cristnogol 2021
Cyfiawnder hinsawdd. Dau air sy wedi dod i olygu llawer iawn i Cymorth Cristnogol. Ac er bod cymaint o bethau eraill wedi diflannu o sylw’r byd yn ystod blwyddyn gythryblus y Cofid, nid yw cyfiawnder hinsawdd wedi diflannu o gwbl.
Mae’r argyfwng mor fawr ag erioed.
Yn enwedig i Rose Katanu Jonathon o Kitiu, Kenya. Dim ond chydig o ddŵr mae hi eisiau. Cyflenwad dibynadwy ac agos i’w chartref. Nid yw’n ormod i’w ofyn.
Ac eto, nid yw ar gael iddi. Rhaid iddi gerdded am oriau pob dydd er mwyn cario’r hyn y mae darllenwyr yr erthygl hon yn ei gymryd yn ganiataol. I ni, dim ond troi’r tap sydd ei angen. Iddi hi, mae taith hir, beryglus yn ei wynebu pob un dydd.
Er mwyn Rose, ei chymuned a thrigolion Kenya a sawl gwlad dlawd arall, mae Cymorth Cristnogol yn gofyn am eich cefnogaeth yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol eleni.
Argae Florence
Un o Kenya yw Florence Muthiani hefyd. Arferai ei bywyd hithau fod yn debyg iawn i fywyd Rose - taith luddedig, ddyddiol i gario dŵr. Ond daeth tro ar fyd Florence a hynny oherwydd bod partner Cymorth Cristnogol yn y wlad wedi cefnogi ei chymuned i adeiladu argae yn ymyl y pentref.
Golyga hyn fod posibl cronni’r glawogydd prin a’i gadw ar gyfer yr adegau sych. Mae’n agos i’r pentref hefyd ac nid oes angen colli oriau pob dydd i’w gario.
‘Mae fy mywyd wedi newid,’ meddai Florence wrthym. ‘Rwy’n hapus iawn. Mae gen i nerth a chryfder.’
Mae’n tyfu cnydau i fwydo ei theulu ac i’w gwerthu. Mae’n cadw gwenyn hefyd ac yn gwerthu’r mêl yn y farchnad. Rhoddion cefnogwyr Cymorth Cristnogol sydd wedi ei gwneud yn bosibl i gymuned Florence adeiladu’r argae a chodi eu hunain allan o dlodi.
Eich cefnogaeth hanfodol chi
Trwy gefnogi Wythnos Cymorth Cristnogol, gallwch helpu mwy o bobl debyg iddi, pobl fel Rose a’r miliynau eraill o amgylch y byd sy’n gwybod yn iawn beth yw cyfiawnder hinsawdd. Gallai £6 brynu bag o sment sy’n angenrheidiol i godi argae. Gallai £27 brynu berfa - offer cwbl allweddol i’r gwaith. A gallai £335 hyfforddi pwyllgor argae gan roi’r sgiliau iddynt gynnal a chadw’r argae am flynyddoedd i ddod.