Coleg i ethol esgob newydd yn dod i ben heb benderfyniad
Caiff Esgob nesaf Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu ei ddewis gan yr Esgobion ar ôl i Goleg Etholiadol yr Eglwys ddod i ben heddiw (dydd Gwener) heb ganlyniad.
Ni allodd unrhyw ymgeisydd sicrhau’r bleidlais gyda mwyafrif angenrheidiol o ddau draean o’r Coleg yn ystod ei gyfarfod tridiau llawn yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe.
Bydd y Fainc Esgobion yn awr yn cymryd y penderfyniad maes o law.
Dywedodd yr Esgob Andy John, Esgob y Coleg Etholiadol, y byddai’r penodiad yn uchel ar agenda’r Esgobion. Dywedodd, “Pryd bynnag y cawsom gyfarfodydd fel hyn a bod trafodaeth drylwyr ac ymgysylltu agos, mae penderfyniad yn beth anodd iawn ei sicrhau. Gan nad yw’r Coleg yn unfryd, gofynnodd i’r Fainc Esgobion gymryd cyfrifoldeb am y penodiad nesaf. Felly mae hynny nawr yn uchel iawn ar ein hagenda. Byddwn yn ymgynghori gyda’n gilydd, o fewn yr esgobaeth a hefyd ymysg yn ein gilydd, yn y gobaith y gallwn ddarparu rhywun a all fynd â’r esgobaeth ymlaen. Rwy’n wirioneddol hyderus y gallwn wneud hynny yn fuan.”
Mae cyfarfod y Coleg yn dilyn ymddeoliad Archesgob Cymru, John Davies ym mis Mai oedd hefyd yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu.
Yr esgob newydd fydd 10fed Esgob Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu, ardal sy’n ymestyn i’r de i arfordir Gŵyr a thua’r gogledd i gynnwys llawer o’r canolbarth. Mae’r esgob yn seiliedig yn Aberhonddu.
Roedd 45 o bobl yn y Coleg Etholiadol, gan gynrychioli pob un o’r chwech esgobaeth yng Nghymru. Roedd ei drafodaethau yn gyfrinachol, gyda’r ymgeiswyr ar gyfer etholiad yn cael eu henwebu yn y cyfarfod a phleidleisio arnynt drwy bleidlais ddirgel.
Dechreuodd ei gyfarfod ddydd Mercher (1 Medi) a dod i ben ar y trydydd diwrnod ar ddydd Gwener (3 Medi).