Eglwysi yn canolbwyntio ar bobl fregus ar Ddydd Sul Diogelu
Ffyrdd y gall ysgolion helpu a gwarchod pobl fregus fydd ffocws Dydd Sul Diogelu eleni.
O wybod sut i sylwi ar a rhoi adroddiad am arwyddion o gamdriniaeth i weddïo dros bob dioddefwr, bydd y diwrnod yn gyfle i gynulleidfaoedd feddwl am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn eglwys ddiogel i bawb.
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn nodi Dydd Sul Diogelu ar 9 Hydref ac mae adnoddau dwyieithog yn cael eu paratoi mewn partneriaeth gyda sefydliad diogelu Cristnogol Thirtyone:eight.
Mae Archesgob Cymru, Andrew John, yn annog eglwysi i nodi’r dyddiad.
Dywedodd, “Mae gwarchod pobl fregus wrth galon y neges Gristnogol a dyna pam fod yr Eglwys yng Nghymru yn ymroddedig i fod yn ‘eglwys ddiogel’. Mae Dydd Sul Diogelu yn gyfle i ganolbwyntio ar yr hyn mae’n ei olygu i fod yn eglwys ddiogel, i’n hatgoffa fod eglwys ddiogel yn gyfrifoldeb i bawb ac i ddiolch a gweddïo dros bawb sy’n gweithio ym maes diogelu. Gobeithiaf y bydd ein holl eglwysi yn ymuno ac yn nodi’r diwrnod pwysig hwn.”
Dywedodd Wendy Lemon, Rheolwr Diogelu yr Eglwys, y bydd y diwrnod yn gyfle i sicrhau fod pobl yn gwybod sut i roi adroddiad am unrhyw bryderon sydd ganddynt. Dywedodd, “Mae Dydd Sul Diogelu yn gyfle i eglwysi roi sylw i waith pwysig diogelu yn ein heglwysi. Mae’n ein hatgoffa fod diogelu yn edau aur sy’n rhedeg drwy fywyd yr eglwys. Mae’n dod â’n diben Cristnogol i warchod pobl fregus ynghyd gyda’n hangen i weddïo dros y rhai yng nghymunedau’r eglwys sy’n cymryd cyfrifoldebau diogelu.
“Anogwn eglwysi i ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael gan yr Eglwys yng Nghymru a thirtyone:eight i neilltuo peth amser yn eu gwasanaeth ar 9 Hydref i dynnu sylw at a gweddïo dros ddiogelu o fewn ein heglwysi. Erbyn diwedd Dydd Sul Diogelu gobeithiwn y bydd pobl yn gwybod pwy yw Swyddogion Diogelu eu Hardal Gweinidogaeth neu Genhadaeth a sut i roi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddynt. Gobeithiwn hefyd y byddant wedi cael eu hatgoffa fod diogelu yn rhan ganolog o’r ffyrdd Gristnogol.”
- Bydd yr adnoddau ar gyfer Dydd Sul Diogelu ar gael erbyn diwedd mis Medi ar wefan thirtyone:eight
Gofynnir i chi nodi y cafodd dyddiad Dydd Sul Diogelu Cenedlaethol ei symud yn ddiweddar i 20 Tachwedd a byddwch yn gweld y dyddiad hwn ar wefan thirtyone:eight. Fodd bynnag, penderfynodd yr Eglwys yng Nghymru gadw’r dyddiad gwreiddiol o 9 Hydref fel y’i cyhoeddwyd yn y llithlyfr.