Gall eglwysi ail-agor ar gyfer gweddïau preifat
Gall eglwysi yng Nghymru ail-agor ar gyfer gweddïau preifat o ddydd Llun wrth i Lywodraeth Cymru lacio cyfyngiadau symud.
Bydd eglwysi a all gyflawni mesurau diogelwch llym yn medru ail-agor ar gyfer unigolion a grwpiau aelwyd i weddïo. Fodd bynnag, bydd pob eglwys yn parhau ar gau ar gyfer gwasanaethau, yn cynnwys priodasau, angladdau a bedyddiadau.
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y mesurau diogelwch y bydd yn rhaid i eglwysi eu gweithredu er mwyn ail-agor. Mae’r rhain yn cynnwys cadw pellter dau fetr rhwng pobl a sicrhau gweithdrefnau hylendid a glanhau digonol. Bydd yn rhaid i eglwysi hefyd gwblhau asesiad risg COVID cyn ail-agor.
Fel canlyniad, ni all pob eglwys ail-agor ar hyn o bryd. Bydd yr union oriau agor ar gyfer gweddïau preifat yn amrywio yn dibynnu ar allu pob eglwys i agor yn ddiogel. Bydd argaeledd gwirfoddolwyr i fonitro ymbellhau cymdeithasol a sicrhau y cedwir eglwysi yn lân yn ffactor bwysig.
Er yn croesawu’r newyddion y gall eglwysi yn awr ail-agor ar gyfer gweddïau preifat, mae esgobion yr Eglwys yn dweud fod yn rhaid i ddiogelwch y cyhoedd fod yr ystyriaeth gyntaf.
Mewn datganiad dywedant, “Mae ymagwedd wyliadwrus at ail-agor, a seiliwyd yn gadarn ar ganllawiau Llywodraeth Cymru, yn hanfodol. Yr hyn a gyhoeddwyd yw rhoi caniatâd,. Nid oes unrhyw ofyniad, gan Lywodraeth Cymru nac Esgobion yr Eglwys yng Nghymru, i ail-agor ar hyn o bryd.
“Er bod pawb ohonom yn edrych ymlaen at y dydd y gall ein holl eglwysi agor yn ddiogel, rydym yn annog diogelwch lleol o fewn y canllawiau. Dylid cyfateb trefniadau agor gyda’r gallu i drin y mesurau diogelwch angenrheidiol. Mae’n rhaid i iechyd a llesiant ein clerigwyr, staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr fod ein consyrn pennaf.”
Ychwanegodd John Davies, Archesgob Cymru: “Rydym yn ddiolchgar am y caniatâd a roddwyd i agor eglwysi ar gyfer gweddïau preifat lle mae’n ddiogel a hefyd yn ymarferol i wneud hynny. Bydd hyn yn dod â chysur a chefnogaeth i lawer o bobl, yn arbennig yn y dyddiau anodd a phryderus hyn. Er ein bod yn dal i fethu cynnal gwasanaethau, mae’n arwydd gobeithiol ein bod yn dod drwy’r pandemig hwn.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i’n clerigwyr a gwirfoddolwyr fydd yn awr yn gweithio’n galed i sicrhau bod yr eglwysi a all agor yn gwneud hynny’n ddiogel drwy gyflawni ein meini prawf cadarn.”
Er bod adeiladau eglwys yn parhau ar gau ar gyfer gwasanaethau, mae pobl yn dal i fedru ymuno mewn addoli a chyfeillach ar-lein yn y llu o wasanaethau sy’n cael eu darlledu. Mae eglwys ddigidol - o wasanaeth ewcharist a gaiff eu ffrydio’n fyw ar Facebook i gyfarfodydd gweddi ar Zoom - ar gael ledled Cymru.
Edrychwch ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol eich eglwys leol i gael gwybodaeth neu i ganfod gwasanaeth drwy wefan yr Eglwys yng Nghymru yn https://bit.ly/3dEVySx
I gael y canllawiau llawn a meini prawf ar ddiogelwch, gweler https://www.churchinwales.org.uk/cy/clergy-and-members/coronavirus-covid-19-guidance/