Cymorth Cristnogol yn cefnogi Apêl DEC Affganistan
Mae Cymorth Cristnogol wedi ymuno ag elusennau cymorth blaenllaw eraill yng Nghymru i lansio apêl codi arian ar y cyd wrth i gynnydd trychinebus mewn diffyg bwyd ysgubo ar draws Affganistan, gydag wyth miliwn o bobl yn wynebu newyn dros fisoedd y gaeaf. Mae plant eisoes yn marw ac mae miliwn yn fwy mewn perygl.
Mae DEC (Disasters and Emergency Committee) wedi lansio apêl er mwyn ariannu elusennau sydd eisoes yn gweithio yn y wlad, cyn cynnwys Cymorth Cristnogol.
Meddai Mari McNeill, Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru: “Mae'r sefyllfa yn Affganistan yn erchyll tu hwnt. Mae miliwn o blant mewn perygl o farw'r gaeaf hwn, felly rhaid i ni weithredu'n gyflym.
"Mae Cymorth Cristnogol ac elusennau eraill eisoes yn gweithio yn y wlad, ond mae angen chwistrelliad enfawr o arian er mwyn arbed bywydau'r gaeaf hwn. Os gwelwch yn dda, rhowch yr hyn y a allwch chi."
Am fanylion sut i roi a mwy o wybodaeth ewch i: https://www.christianaid.org.uk/appeals/emergencies/dec-afghanistan-crisis-appeal