Dathlwch gariad sy’n adeiladu gobaith yr Adfent hwn
Apêl Nadolig Cymorth Cristnogol
Mae’n beth prin inni fyw trwy sefyllfa sy wedi’n heffeithio ni yng Nghymru ar yr un pryd ag effeithio pobl o amgylch y byd. Ddim yn aml yr ydym wedi profi bygythiad a rannwn gyda’n cymdogion byd eang mewn gwledydd mor wahanol ag Ethiopia, Libanus a Nicaragua.
Mae Covid-19 a’r ymgais i atal ei ymlediad wedi taro’r byd trwy gydol 2020, gan ddinistrio bywydau, codi ofn, difetha bywoliaethau a gorfodi pobl fregus i dlodi gwaethach.
Ond wrth inni agosáu at y Nadolig, cawn ein hatgoffa am berson sy wedi troi'r byd wyneb i waered er daioni, un oedd â’i fywyd mewn cyfnod o orthrwm ac ofn wedi dod â gobaith drawsnewidiodd y byd wrth i’w neges ymledu.
Wrth inni edrych tuag at Emaniwel, Duw gyda ni, y Nadolig hwn, cawn ein hatgoffa fod Duw yn cerdded gyda ni trwy gyfnodau anodd ac yn gweithio trwom ni ym mhob sefyllfa i ddangos cariad i’r byd. Cariad nad yw byth yn methu. Cariad sy’n uno. Cariad sy’n adeiladu gobaith.
Ethiopia
Wedi eu hysbrydoli gan Iesu, mae cefnogwyr Cymorth Cristnogol yn cerdded yn ymyl y rhai y mae’r Coronafirws yn ddim ond her ychwanegol ar ben sawl her arall iddynt, yn cynnwys yr argyfwng hinsawdd, anghydfod ac yn 2020 effaith locustiaid.
Mae eich rhoddion a’ch gweithredoedd chi yn helpu pobl fel Mekonnen Sofar yn ardal DE Omo, Ethiopia, sy’n cloddio hyd at fetr o ddyfnder mewn gwely afon er mwyn chwilio am ddŵr i’w dda byw. Mae’r argyfwng hinsawdd yn gwthio ei deulu i newyn ac yn bygwth ei ffordd o fyw.
Mae ffrindiau iddo, cyd fugeiliaid a phlant wedi marw wrth gloddio mor ddwfn nes i’r gwely sych syrthio ar eu pen.
Mae Cymorth Cristnogol yn gweithio gyda theuluoedd fel Mekonnen i roi ffynhonnell dwr cymunedol iddynt ac archwilio ffyrdd gwahanol o greu incwm fel creu sebon o aloe vera a phlannu cnydau sy’n wydn mewn sychder.
Mae traddodiadau’n newid, mae cariad yn parhau
Mae’r cyfyngiadau sy’n rheoli sut ydym yn cyfarfod ac yn rhyngweithio wedi’n gorfodi i ailfeddwl beth yw cymuned, ond mae’n cefnogwyr yn gwybod ein bod wedi’n clymu gyda’n gilydd mewn ffordd llawer dyfnach na’r firws ac maent wedi dangos penderfyniad dwfn i barhau i ymestyn allan tuag at eraill.
Y Nadolig hwn caiff eglwysi eu gwahodd i ymuno mewn moment o undod a gobaith ar Sul cyntaf yr Adfent, 29 Tachwedd, trwy ddefnyddio’r garol newydd ‘Pan aned gynt mewn tlodi’ wrth iddynt addoli a gwneud casgliad dros Cymorth Cristnogol.
Mae’r garol ar gael ar ein gwefan caid.org.uk/christmasresources ac mae’n dathlu cyfraniad Mair a galwad mawr y proffwyd i baratoi ffordd i Dduw a’i deyrnas. Y Nadolig hwn, galwn ddathlu’r gwirionedd anhygoel ein bod wedi’n huno’n fyd eang gan gariad sy’n wydn yn wyneb haint, sychder a thywyllwch, ac sy’n adeiladu gobaith i’n holl gymdogion.
I ganfod mwy am Apêl Nadolig Cymorth Cristnogol, yn cynnwys sut i weithredu dros gyfiawnder hinsawdd, ewch i caid.org.uk/hope. Yr Adfent hwn, gallai £15 hyfforddi un wraig i greu sebon aloe vera, gallai £80 brynu dwy afr i helpu teulu adeiladu gwell dyfodol iddynt eu hunain a gallai £290 dalu am ddeunydd ac offer i adeiladu pwll, fyddai’n sicrhau cyflenwad dibynadwy o ddŵr i gymuned gyfan.