Wythnos Cymorth Cristnogol ar lein
Mewn ychydig wythnosau, mae pandemig y Coronafirws wedi creu newid rhyfeddol yn ein cymdeithas.
Mae’r haint wedi effeithio pob rhan o fywyd. Daeth â dioddefaint ac ansicrwydd i gymaint, yma a thramor, gan wthio’i hun i flaen ein meddwl, ein sgyrsiau a’n gweddïau. Ac rydan ni i gyd yn gorfod addasu o’i oherwydd.
Mae eglwysi Cymru hefyd wedi addasu, wrth iddynt gael eu cau allan o’u hadeiladu. Ond mae nifer wedi ymateb i’r her a bellach ceir gwledd o oedfaon a myfyrdodau ar lein i’n helpu i barhau i addoli.
Yn yr un ffordd, mae Cymorth Cristnogol hefyd yn gorfod addasu. Am y tro cyntaf ers degawdau lawer, ni allwn gynnal Wythnos Cymorth Cristnogol arferol ym mis Mai eleni. Ond tydi hynny ddim yn golygu ein bod am wneud dim.
Bydd cyfle i gynnal y gweithgareddau arferol yn yr hydref, ond mae cyfle i ymuno mewn gweithgareddau ar lein ym mis Mai. Mae Trefn Gwasanaeth, Gweddïau a Nodiadau Pregeth i gyd yn barod ar ein gwefan. Gallwch eu defnyddio ar eich cyfrifiadur neu ddyfais, neu eu hargraffu ar bapur adref.
I’r eglwysi hynny sy’n paratoi oedfaon ar lein pob Sul i’w haelodau, beth am ddefnyddio’r Trefn Gwasanaeth arbennig sy wedi ei pharatoi ar gyfer Sul 10 Mai? Mae’n troi o amgylch yr arfer pwysig o olchi dwylo.
Yn ychwanegol bydd gennym ddefosiwn dyddiol ar fidio ar ein cyfryngau cymdeithasol a chwis ar Facebook i Gymru gyfan ymuno ynddo! A does dim yn eich atal i greu eich syniadau codi arian ar lein eich hun. Byddem wrth ein bodd cael dathlu’ch syniadau creadigol.
Meddai Cynan Llwyd, Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru dros dro, ‘Mae wedi bod yn wych derbyn negeseuon cefnogol gan ein cefnogwyr tuag at ein chwiorydd a’n brodyr dramor, a phobl yn gofyn sut allen nhw barhau i gefnogi Wythnos Cymorth Cristnogol mewn cyfnod mor anodd.
‘Rwy’n gobeithio’n fawr y byddwch yn gallu ymuno yng ngweithgarwch yr Wythnos ar lein ym mis Mai, wrth inni gynnig adnoddau arbennig i’ch helpu i weddïo a chodi arian dros y rhai a effeithir gan dlodi.
‘Nid yw cariad yn darfod byth. Mae’r Coronafirws yn ein heffeithio i gyd. Ond mae cariad yn ein huno i gyd. Gadewch inni i gyd uno dros Wythnos Cymorth Cristnogol a sefyll mewn undod dros y mwyaf bregus yn ein byd.’
Cewch hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf a’r adnoddau ar ein gwefan - https://www.christianaid.org.uk/get-involved-locally/wales/coronafirws