Gwasanaeth cysegru Esgobion i’w ffrydio’n fyw am y tro cyntaf
Caiff hanes ei wneud y penwythnos hwn wrth i wasanaeth i gysegru esgobion yn yr Eglwys yng Nghymru gael ei ffrydio’n fyw am y tro cyntaf.
Gall pobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt ymuno yn y gwasanaeth yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor pan gaiff John Lomas, Esgob newydd Abertawe ac Aberhonddu a Mary Stallard, Esgob Cynorthwyol newydd yn Esgobaeth Bangor eu cysegru.
Cynhelir y gwasanaeth cysegru ddydd Sadwrn, yn cychwyn am 2.30pm, a chaiff ei ffrydio’n fyw yn :
https://www.churchinwales.org.uk/cy/about-us/bishops/ordination-and-consecration-service/
a hefyd ar dudalen Facebook yr Eglwys Gadeiriol.
Fe’i cynhelir yng Nghadeirlan Bangor gan mai dyma sedd Archesgob Cymru, Andrew John, sydd hefyd yn Esgob Bangor.
Caiff yr esgobion newydd eu harwain i’r Gadeirlan gan orymdaith hir fydd a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o holl esgobaethau a chadeirlannau Cymru. Yn ystod y gwasanaeth, a fynychir yn bersonol gan gynrychiolwyr o ‘r ddwy esgobaeth, caiff yr esgobion newydd eu heneinio gydag olew sanctaidd a chyflwynir symbolau’r swydd iddynt: modrwy esgobaethol esgob, brongroes a meitr, yn ogystal â Beibl a ffon fugeiliol.
Cânt eu cysegru gan yr Archesgob a phedwar esgob arall yr Eglwys yng Nghymru. Rhoddir anerchiad gan Archddiacon Môn, Andrew Herrick.
Bydd cerddoriaeth newydd, a gyfansoddwyd ar gyfer yr achlysur, yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yn y gwasanaeth. Bydd Côr Cadeirlan Deiniol Sant yn canu gosodiad o’r Cymun gan Joe Cooper, yn seiliedig ar emyn-donau Cymreig adnabyddus. Bydd anthem arbennig, wedi ei chyfansoddi gan Simon Ogdon, yn cael ei chanu ar un o uchafbwyntiau’r gwasanaeth, yn union cyn i’r ddau esgob newydd gael eu hordeinio.
Dywedodd yr Archesgob Andrew, “Mae hwn yn amser cyffrous i’r Eglwys yng Nghymru wrth i ni ddechrau’r flwyddyn gyda dau esgob newydd a gallu agor ein heglwysi a chroesawu pobl i ymuno â ni ar gyfer y gwasanaeth pwysig yma. Diolch i’r camau breision ymlaen a wnaethom gyda thechnoleg ddigidol ers dechrau’r pandemig gallwn yn awr ddarlledu’r gwasanaeth yn fyw fel y gall pawb sydd eisio ymuno a dathlu gyda ni wneud hynny. Gobeithiaf y bydd llawer ohonoch yn gwneud hynny, os yn bosibl, ac yn ymuno yn ein gweddïau dros yr Esgob John a’r Esgob Mary wrth iddynt ddechrau eu gweinidogaethau newydd.”
Yn dilyn y gwasanaeth cysegru caiff yr Esgob Mary ei chroesawu i’w swydd newydd yn Esgobaeth Bangor gyda gwasanaeth dathlu ar Ddydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth, am 2.30pm. Caiff ei chyfarch gan bobl o bob rhan o Esgobaeth Bangor a bydd yn cyd-lywyddu gydag Archesgob Cymru ac Esgob Bangor, Andrew John, mewn dathliad o’r Ewcharist Sanctaidd. Caiff y gwasanaeth hwn hefyd ei ffrydio’n fyw.
Caiff yr Esgob John ei orseddu fel 10fed Esgob Abertawe ac Aberhonddu yng Nghadeirlan Aberhonddu, sedd sedd yr Esgobaeth ar 5 Mawrth. Caiff ei osod yng nghadair yr Esgob a hefyd ei groesawu gan gynrychiolwyr o bob rhan o esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Bydd y gwasanaeth yn cychwyn am 2pm ac mae mynediad drwy docyn yn unig oherwydd prinder lle. Caiff hefyd ei ffrydio’n fyw.