Byddwch yn oleuni yn y tywyllwch yn ystod y cyfnod Adfent hwn – Neges Adfent yr Archesgob
Prin fod cyfnod yr Adfent, sy’n dechrau’r penwythnos hwn, erioed wedi bod mor bwysig fel amser i ddwyn goleuni a gobaith i’r rhai mewn tywyllwch, meddai Archesgob Cymru.
I nodi Sul yr Adfent (29 Tachwedd) dywed yr Archesgob John Davies, tra bydd gwasanaethau eglwys yn wahanol iawn eleni, oherwydd y cyfyngiadau Covid, mae’r Adfent yn parhau yn gyfnod o obaith y mae ei angen yn fawr wrth i ni baratoi at y Nadolig.
Mae’n gwahodd pobl i ymuno ag ef, a holl esgobion yr Eglwys yng Nghymru, mewn gweddi bob dydd am 6pm yn ystod y tymor, rhwng nawr a dydd Nadolig, a bod yn gyfrwng goleuni i eraill sydd angen gobaith a chefnogaeth hefyd.
Meddai’r Archesgob John, “Mae’r amgylchiadau presennol yn parhau yn dywyll a phryderus i gymaint o bobl, ac felly mae dathlu dyfodiad y goleuni, symud o dywyllwch i oleuni, gymaint yn bwysicach nag y bu yn y gorffennol, efallai. Mae arnom ni i gyd angen gobaith, mae arnom i gyd angen rhywbeth i chwalu’r tywyllwch o’n calonnau a’n meddyliau.
“Mae’r Eglwys a’i hesgobion yn sensitif iawn i’r angen hwnnw. Y teimlad hwnnw sy’n ymddangos yn aml mewn cymaint o lefydd, y teimlad o drymder. Rydym yn gofyn i bobl yn nhymor yr Adfent, yn y cyfnod cyn y Nadolig, i ganolbwyntio ar ei ystyr gwirioneddol a dwys – y paratoad hwnnw at ddyfodiad y goleuni, a’r goleuni hwnnw yn torri trwy’r tywyllwch.
“Rydym yn gofyn i bobl ymuno â ni bob dydd yn ystod yr Adfent am 6pm trwy weddïo dros ei gilydd, gweddïo dros ein cenedl, dros ei chymunedau a’i phobl. Rydym yn gofyn i bobl ganolbwyntio ar yr hyn y gallan nhw ei wneud i fod yn gyfryngau goleuni eu hunain. Trwy wirfoddoli mewn cymaint o ffyrdd gwahanol yn eu cymunedau, eu hardaloedd, trwy helpu, trwy ddwyn goleuni i bobl sydd angen gobaith a chefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn. Credaf, eleni, na fu’r Adfent erioed mor bwysig i ni ganolbwyntio ar y goleuni hwnnw, y gobaith a’r cryfder hwnnw yr ydym yn ei ddwyn i eraill.”
Gallwch wylio neges Adfent llawn yr Archesgob ar dydd Sul yn: https://youtu.be/M8Q1VzxD4mg