Diolch i’r rhai sy’n ymestyn allan i fyd sydd wedi torri ac yn dioddef
Yn ei neges Pasg mae Archesgob Cymru yn ein hannog i ddiolch i’r rhai sy’n ymestyn allan mewn ffydd, tynerwch, dewrder a chariad mewn byd sydd wedi torri ac yn dioddef.
Mae’r Archesgob John Davies hefyd yn galw arnom i ganfod ffordd newydd o fyw – ein ‘hatgyfodiad’ ein hunain – drwy ddilyn Iesu a dod â’r bywyd newydd hwnnw i’r rhai o’n hamgylch.
Neges Pasg Archesgob Cymru
Bydd bob amser rai sy’n gwrthod y ffydd Gristnogol fel gobaith ofer. Iddynt hwy, mae stori’r Pasg ar ei gorau yn stori hyfryd o’r math ‘hapus-byth-wedyn’ ac felly y bydd yn parhau am byth, neu, ar ei gwaethaf, mae’n dwyll annhebygol ac afresymegol, a gafodd ei chynllunio yn ofalus a’i gwthio ar fyd diniwed gan grŵp bychan o gynllwynwyr o’r ganrif gyntaf. Iddynt hwy mae’r ffaith fod biliynau dirifedi yn ddilynol wedi byw yng ngoleuni hynny naill ai’n amherthnasol neu ddim ond yn dangos pa mor rhwydd yw hi i ddylanwadu ar fodau dynol i gredu yn yr annhebygol a’r afresymegol. Yn fwy cryno, byddent yn dweud mai stori ffug yw’r cyfan, a bod y rhai sy’n credu hynny yn gwadu’r gwir. Wel gallent fod yn iawn oni bai am hanes a thystiolaeth cyson i’w gwirionedd.
Mae hanes a thystiolaeth yn cofnodi ymdrechion milain yn aml y rhai a geisiodd gael gwared â’r ffydd a’i bortreadu yn union fel y byddai sgeptigiaid heddiw yn wneud – twyll. Mae hanes a thystiolaeth hefyd yn cofnodi sut y methodd ymdrechion o’r fath, ond yn fwy na hynny, yn union pa mor bell y byddai Cristnogion yn mynd a pha boenau a threialon a ddioddefent yn hytrach na gwadu’r hyn y gwyddent ei fod yn wir, pa bynnag mor annhebygol neu afresymegol y gallai’r cyfan ymddangos.
Mae ein ffydd yn ei holl gyfoeth, a ffydd y Pasg yn neilltuol, wedi ei wreiddio, nid mewn celwydd, ond yn realaeth a thystiolaeth yr hyn a brofodd ac a wyddai pobl. Fel y dywed un o’r gweddïau yn ein Llyfr Gweddi, adeiladwyd yr Eglwys ar sylfaen yr Apostolion a’r Proffwydi, gyda Christ Iesu y brif gonglfaen.
Ymysg rhai y gallwn ddibynnu ar ei brofiad yw dyn o’r enw Nicodemus, dyn o sylwedd, Pharisead ac aelod o Gyngor yr Iddewon. Dim ond tair gwaith y mae’n ymddangos yn y Beibl, bob un ohonynt yn yr Efengyl yn ôl Ioan.
Ymddengys gyntaf yn Ioan, pennod 3, yn chwilfrydig am Iesu, ond yn edrych amdano liw nos rhag ofn bod eraill yn ei weld. Mae’n clywed gan Iesu, ond dim yn deall ei ystyr yn llawn, yr alwad i gael ei ‘eni o’r newydd, ‘ei enw o ddŵr a’r Ysbryd’ – i gael dechrau newydd fel plentyn i Dduw. Er nad oedd yn deall yn llawn beth a olygai’r Iesu mae’n rhaid fod ei chwilfrydedd a’i ddiddordeb wedi parhau, efallai yn tyfu fel disgybl cudd, oherwydd fel y darllenwn yn Ioan pennod 7, pan mae’r Prif Offeiriaid a’r Phariseiaid yn ceisio cael Iesu wedi ei arestio, protestiodd Nicodemus gan eu hannog i roi gwrandawiad i Iesu a hyd yn oed i ddysgu ganddo. Nid aeth hynny ag ef yn bell iawn! Yn olaf, darllenwn amdano yn Ioan, pennod 19, gyda Joseff o Armiathea, hefyd yn ‘ddisgybl Iesu ond yn ddisgybl cudd gan fod ofn yr Iddewon arno’, yn gofalu’n gariadus am gorff Iesu, a’i bêr-eneinio a’i gladdu yn y bedd yn yr ardd. Bu’n gryn daith i Nicodemus, o chwilfrydedd a dryswch am Iesu, i’w amddiffyn ac yna i roi iddo yr hyn oedd, oherwydd faint o ddeunyddiau pêr-eneinio drud a ddefnyddiwyd, yn gyfystyr â chladdedigaeth frenhinol.
Beth oedd y ddau ddyn yn ei demlo ar y foment honno, yn yr ardd honno? Digalondid? Brad? Dicter? A oeddent yn credu fod y cyfan yn dwyll wedi’r cyfan, fod y Phariseaid wedi’i chael hi’n iawn? A oeddent yn credu fod Iesu wedi bod yn dwyll ond oherwydd ei garisma fel ffigur ac fel cyfaill, teimlent nad oedd ond iawn i roi’r gladdedigaeth fwyaf gweddus ac urddasol iddo? Pwy â ŵyr.
Ond nid oes unrhyw amheuaeth, yn fuan wedyn, y gallai Nicodemus a hefyd Joseff fod wedi bod yn rhan o grŵp o ddisgyblion a ffrindiau yn rhannu yn eu galar, efallai yn eu dicter mawr a’u dryswch, pan ddechreuodd pethau rhyfedd ddigwydd, ac y dechreuodd sôn am atgyfodiad. Efallai eu bod ymysg y dyrfa ar y Pentecost Cristnogol cyntaf pan oedd popeth yn gwneud synnwyr, pan ganfu’r eglwys ei llais ac bod ganddi rywbeth i’w ddweud wrth y byd am fywyd newydd a ffyrdd newydd; rhywbeth i’w ddweud am y gwirionedd y dangosodd goleuni cariad Iesu na fedrai ac ni fedrai gael ei ddinistrio gan dywyllwch.
Mae byd heddiw’n parhau yn dywyll ac wedi ei andwyo a’i anharddu gan bob math o ddioddefaint, nid yn unig gan bandemig parhaus COVID 19, ond gan erchyllterau, rhyfeloedd, erledigaethau rhy niferus i’w rhestru – nifer nid ansylweddol ohonynt wedi eu hachosi neu eu gwaethygu gan gyndynrwydd, trahauster, hurtrwydd a rhagfarn dynol. Cafodd Nicodemus ei eni eto a daeth i sylweddoli fod ffordd Crist Iesu yn ffordd o fywyd newydd iddo ef a’r byd. Adeg y Pasg ac ar adegau hyn, diolch i Dduw am fywyd newydd yng Nghrist ac am bobl fel Nicodemus sydd mewn ffydd, tynerwch, dewrder a chariad yn parhau i ymestyn allan mewn byd sydd wedi torri ac yn dioddef. Adeg y Pasg a phob amser boed i chi gydnabod eich potensial i gael eich atgyfodi a dod ag atgyfodiad i eraill o’ch cwmpas.