Hafan Eglwys Gadeiriol Aberhonddu Deondy a’r festrïoedd - y tu allan

Deondy a’r festrïoedd - y tu allan

Croeso i Gadeirlan Aberhonddu. Ar ein llwybr treftadaeth, gallwch ddarganfod beth mae’r adeiladau, y coed, a’r gwrthrychau o fewn y tir o gwmpas y gadeirlan yn ei ddatgelu am ein gorffennol a’n presennol. Mae 14 o wahanol storïau ar hyd y llwybr. Gallwch eu darganfod a’u harchwilio ym mha drefn bynnag. Pan welwch chi logo’r Gadeirlan, pwyntiwch gamera eich ffôn at y cod QR.

Mae’r adeilad sydd heddiw yn cael ei adnabod fel y Deondy a’r festrïoedd wedi ei gysylltu â’r Gadeirlan ac yn ymestyn i gyfeiriad y de. Mae wedi’i rannu’n ddwy ran gan dŵr canolog ac wedi’i ddefnyddio’n gyson am yn agos i 700 mlynedd. Yn wreiddiol, yn y canol oesoedd, roedd neuadd fawr ar y llawr gwaelod, o bosib yn cael ei defnyddio ar gyfer bywyd cymunedol y mynachod a chroesawu ymwelwyr pwysig. I fyny’r grisiau mae’n bosib fod llety i bererinion cyfoethog a fyddai’n ymweld â’r fynachlog. Mae’n bosib mai mynedfa trwy’r adeilad oedd y tŵr yn wreiddiol.

Wedi i Harri VIII ddiddymu holl fynachlogydd Cymru a Lloegr yn yr 16eg ganrif, bu’n rhaid i’r mynachod adael. Tra i eglwys y priordy barhau fel eglwys blwyf Aberhonddu, gwerthwyd yr adeiladau teuluol a phreswyl i berchnogion preifat gyda’r elw yn mynd i’r Brenin. Roedd llawer o deuluoedd pwysig y sir yn byw yn y cyfadeilad a oedd ar wahân y tu hwnt i’r Deondy draw ar y chwith eithaf; rydym ni’n ei adnabod bellach fel Tŷ’r Priordy. Mae adeilad y Deondy ei hun wedi newid llawer dros y blynyddoedd – daeth y rhan ar yr ochr dde yn dŷ preifat – fe’i galwyd yn ddiweddarach yn Dŷ’r Tŵr, a gyda stablau i’r chwith yn gwasanaethu Tŷ’r Priordy.

Ar ôl i eglwys y priordy gael ei gwneud yn gadeirlan ym 1923, prynwyd Tŷ’r Tŵr i wasanaethu angenrheidiau newydd cadeirlan. Adnewyddwyd ef i raddau helaeth; ailadeiladwyd pedwerydd llawr y tŵr a oedd yn dirywio. Am gyfnod galwyd yr adeilad yn Ganondy, ar ôl y canonau sydd ymhlith clerigion pwysicaf Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu ac sydd hefyd yn gwasanaethu yn y Gadeirlan. Mae’r rhan o’r adeilad sydd i’r chwith, gyda’i cherrig noeth, yn cael ei defnyddio fel festrïoedd, lle y gall y clerigion a’r côr newid a lle mae’r côr hefyd yn ymarfer canu. I’r dde o’r tŵr mae cartref gwyngalchog y Deon, pennaeth y gadeirlan.

Ar ôl bod 400 mlynedd mewn dwylo preifat, ail-unwyd adeilad y Deondy â’r gadeirlan ac mae’n awr yn cael ei ddefnyddio i letya’r clerigion a’r côr sy’n cynnal gwasanaethau rheolaidd yn y gadeirlan – yn union fel y gwnâi’r mynachod rhwng 500 a 900 mlynedd yn ôl.