Hafan Eglwys Gadeiriol Aberhonddu Yr Elusenfa

Yr Elusenfa

Croeso i Gadeirlan Aberhonddu. Ar ein llwybr treftadaeth, gallwch ddarganfod beth mae’r adeiladau, y coed, a’r gwrthrychau o fewn y tir o gwmpas y gadeirlan yn ei ddatgelu am ein gorffennol a’n presennol. Mae 14 o wahanol storïau ar hyd y llwybr. Gallwch eu darganfod a’u harchwilio ym mha drefn bynnag. Pan welwch chi logo’r Gadeirlan, pwyntiwch gamera eich ffôn at y cod QR.

Mewn mynachlog Fenedictaidd fel Priordy Aberhonddu, yr elusennwr oedd yn gyfrifol am roi elusen neu gardod i’r tlawd. Roedd yn weithgarwch hanfodol a oedd wedi’i gynnwys yn Rheol Sant Benedict, yr oedd y mynachod yn ei arddel. Byddai’r elusennwr yn aml yn cyflawni’i waith o adeilad y tu allan i’r fynachlog fel y gallai’r bobl ddod am gardod. Byddai’r elusennwr hefyd yn aml yn ymgymryd â gwaith arall yn ymwneud â chyllid a chyfrifon y priordy, fel casglu rhenti. Yn ddiweddarach yn yr oesoedd canol byddai rhai mynachod yn aml yn cael eu beirniadu oherwydd eu cyfoeth cynyddol ac, weithiau, moethusrwydd eu ffordd o fyw, a’r canfyddiad eu bod yn esgeuluso’u dyletswydd i’r tlawd. Cyfoeth rhai safleoedd mynachaidd oedd y prif reswm dros awydd Harri VIII i ddiddymu’r mynachlogydd, er nad yw hynny’n wir yn achos Aberhonddu.

Mae rhannau o’r Elusenfa yn dyddio o’r canol oesoedd ac os cerddwch chi drwy’r glwyd fawr i’r fynwent ac o amgylch cefn yr adeilad fe welwch ffenestr fechan bigfain ganoloesol. Pan ddaeth y Priordy yn eglwys blwyf ym 1533 cafodd yr adeilad ei werthu ac mae’n bosib iddo gael ei ddefnyddio fel adeilad fferm neu fwthyn. Mae’n ymddangos mai yn y 18fed ganrif y gwnaed y rhan fwyaf o’r ailadeiladu ac mai yn y 19eg ganrif, pan symudwyd rhan o le tân y Deondy yno, y cafodd ei ehangu i gyfeiriad y Gadeirlan. Wedi i’r Priordy ddod yn Gadeirlan ym 1923, prynwyd yr adeilad yn ôl i berchnogaeth yr eglwys, fe’i adnewyddwyd a’i ail-enwi Yr Elusenfa oherwydd ei leoliad gerllaw’r glwyd a wal allanol y cyfadeilad.

Mae’r Elusenfa bellach yn cael ei defnyddio fel llety i’r clerigion sy’n gweithio yn y Gadeirlan, ond yn ystod y 19eg ganrif roedd yn cael ei hadnabod fel Bwthyn y Priordy ac roedd yn gartref i nifer o deuluoedd. Yn yr 1840au James Cook, saer, ei wraig Jane a’u chwech o blant a oedd yn byw yno. O tua 1870 i ddechrau’r 20fed ganrif, y teulu Williams oedd yno. Daeth Lewis Williams, a aned ym 1854, yn stiward i’r teulu Camden, tirfeddianwyr pwysig yn Sir Frycheiniog a Llundain, oedd hefyd yn berchen ar gyfadeiladau’r Priordy, gan gynnwys Tŷ’r Priordy, tan iddo gael ei werthu ym 1915 i’r teulu Maybery lleol.