Hafan Eglwys Gadeiriol Aberhonddu Ysgubor Ddegwm

Ysgubor Ddegwm

Croeso i Gadeirlan Aberhonddu. Ar ein llwybr treftadaeth, gallwch ddarganfod beth mae’r adeiladau, y coed, a’r gwrthrychau o fewn y tir o gwmpas y gadeirlan yn ei ddatgelu am ein gorffennol a’n presennol. Mae 14 o wahanol storïau ar hyd y llwybr. Gallwch eu darganfod a’u harchwilio ym mha drefn bynnag. Pan welwch chi logo’r Gadeirlan, pwyntiwch gamera eich ffôn at y cod QR.

Cafodd yr adeilad sy’n awr yn cael ei adnabod fel yr Ysgubor Ddegwm ei adeiladu gan fynachod y Priordy rywbryd wedi 1522, er y dywedir bod y mur gorllewinol yn dyddio’n ôl i’r Canol Oesoedd. Cafodd ei disgrifio adeg ei hadeiladu fel ‘new barn for tithe hay’[1]. Roedd degymu yn drefn gymdeithasol ac economaidd a oedd yn cael ei gorchymyn gan yr Eglwys; rhaid oedd i’r holl bobl leol (nad oeddent yn glerigion) roi un rhan o ddeg o’u cynnyrch blynyddol i’r plwyf lleol i gynnal yr Eglwys a’r clerigion[2]. Roedd hyn i dalu am wasanaeth yr offeiriad. Roedd y degymau’n caniatáu iddo ganolbwyntio ar weddi ac addoliad yn hytrach na gorfod llafurio wrth ryw grefft, er bod llawer o fywoliaethau Cymru mor dlawd fel bod offeiriaid hefyd yn ffermwyr ar raddfa fechan. Cyn y Diwygiad Protestannaidd roedd ysguboriau degwm i’w gweld ledled Lloegr, yn ogystal ag ar draws llawer o Ogledd Ewrop[3]. Ym 1538, cafodd yr ysgubor ei gwerthu, gyda gweddill adeiladau’r mynachdy, fel rhan o Ddiddymiad y Mynachlogydd Harri VIII. Cafodd yr adeilad ei newid droeon dros y canrifoedd, ac mae rhai o’i nodweddion yn dangos iddo gael ei ddefnyddio at ddibenion seciwlar (heb fod yn eglwysig). Mae lle tân llydan o ddechrau’r 17eg ganrif ynghyd â physt-ffenestri yn awgrymu bod o leiaf rannau o’r adeilad ar ryw adeg yn cael eu defnyddio fel anheddau. Mae’n debyg i’r ysgubor gael ei defnyddio at ddibenion amaethyddol; mae’r rhaniadau pren a brics yn ogystal â bachau a harneisiau yn awgrymu i’r ysgubor gael ei defnyddio fel stabl. Mae rhai dogfennau o’r 18fed ganrif yn sôn am ‘Mr Mayberry’s stable’, a allai fod yn cyfeirio at yr Ysgubor Ddegwm hon. Cafodd yr Ysgubor Ddegwm ei dychwelyd i’r Gadeirlan gan yr Arglwydd Camden ym 1934, ac o 1996 i 2021 cafodd ei defnyddio fel Canolfan Dreftadaeth. Yn awr gallwch giniawa yn yr Ysgubor Ddegwm tra’n cadw golwg am y nodweddion gwreiddiol sydd o’ch cwmpas ym mhobman.

Ar du allan yr adeilad, sydd i’w gweld o Fryn y Priordy, fe welwch nifer o gargoiliau sy’n tynnu wynebau grotesg ar furiau’r Ysgubor Ddegwm. Wyddom ni ddim llawer amdanyn nhw, na pha mor hen ydyn nhw, ond yn sicr maen nhw wedi’u symud o rywle arall o fewn cyfadeiladau’r Priordy, o bosib yn ystod adnewyddiadau naill ai’r 18fed neu’r 20fed ganrif. Maen nhw nawr yn tynnu wynebau drygionus ar y traffig sy’n pasio. Yn eu plith mae ffigwr digywilydd iawn sydd, oherwydd difrod gan lorïau sy’n pasio, wedi ei symud i mewn i’r Ysgubor Ddegwm. Allwch chi ddod o hyd iddo tybed?

[1] The Cathedral Church of St. John the Evangelist, Brecon: An Architectural Study, (Brecon: Friends of Brecon Cathedral, 1994) 66.

[2] R.N. Swanson, “Pay back time? Tithes and Tithing in Late Medieval England,” Studies in Church History 46, (2010): 124-133.

[3] Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, “Middle Littleton Tithe Barn,” Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cyrchwyd 1 Mehefin, 2020, https://www.nationaltrust.org.uk/middle-littleton-tithe-barn/features/middle-littleton-tithe-barn-