Muriau a Bylchfuriau
Croeso i Gadeirlan Aberhonddu. Ar ein llwybr treftadaeth, gallwch ddarganfod beth mae’r adeiladau, y coed, a’r gwrthrychau o fewn y tir o gwmpas y gadeirlan yn ei ddatgelu am ein gorffennol a’n presennol. Mae 14 o wahanol storïau ar hyd y llwybr. Gallwch eu darganfod a’u harchwilio ym mha drefn bynnag. Pan welwch chi logo’r Gadeirlan, pwyntiwch gamera eich ffôn at y cod QR.

Yma rydych chi’n sefyll o fewn muriau canoloesol uchel Clos y Gadeirlan. Mae gan y mur fylchfuriau a chlwydi mawr pren, gyda thyllau ym mhyst y clwydi fel y gall y clwydi gael eu bolltio’n ddiogel. Fel hyn y disgrifiodd yr herodr Hugh Thomas y Clos ym 1698 ‘looking more like a Town…having no less than Three Great Gates for Entrance into the outward court’. Yn union y tu allan i’r glwyd gallwch weld dwy gilfach. Cyn y Diwygiad Protestannaidd byddai cerfddelwau wedi bod yn y cilfachau hyn, neu yn y gwagleoedd uwchben y brif glwyd, er enghraifft o nawddsant y priordy, Sant Ioan yr Efengylydd, a’r Forwyn Fair. Roedd Protestaniaid yn tueddu i ystyried cerfddelwau fel eilunaddoliaeth (gwrthrych materol a fyddai’n cael ei addoli fel Duw, yn hytrach na Duw ei hun), felly byddent fel arfer yn eu symud o safleoedd eglwysig – er mai yn ddiweddarach yn aml y digwyddodd hyn yng Nghymru gan nad oedd Protestaniaeth radical yn boblogaidd yma. Roedd rhai cerfddelwau yn dal i fod yn eglwysi Cymru tan y Rhyfel Cartref Cyntaf, 1642-7. Mae’r muriau’n amgáu Clos y Gadeirlan yn llwyr. Pan oedd y gadeirlan yn briordy, byddai wedi amgáu ystâd y priordy a sicrhau ei diogelwch. Ar ôl diddymu’r priordy ym 1536 a’i droi’n eglwys blwyf, aeth y tir i ddwylo preifat. Byddai’r muriau a’r clwydi wedi bod yn gaffaeliad i berchnogion Tŷ’r Priordy a’r adeiladau eraill o fewn y muriau.
