Hafan Eglwys Gadeiriol Aberhonddu Y Cawr Gochwydden

Y Cawr Gochwydden

Croeso i Gadeirlan Aberhonddu. Ar ein llwybr treftadaeth, gallwch ddarganfod beth mae’r adeiladau, y coed, a’r gwrthrychau o fewn y tir o gwmpas y gadeirlan yn ei ddatgelu am ein gorffennol a’n presennol. Mae 14 o wahanol storïau ar hyd y llwybr. Gallwch eu darganfod a’u harchwilio ym mha drefn bynnag. Pan welwch chi logo’r Gadeirlan, pwyntiwch gamera eich ffôn at y cod QR.

Dim ond enghraifft fach o’r goeden fwyaf anferth ar y ddaear yw’r Cawr Gochwydden hon! Fel y Gedrwydden Libanus, conwydden yw’r Cawr Gochwydden. Mae hyn yn golygu ei bod yn cynhyrchu conau yn hytrach na blodau. Mae hefyd yn ‘fythwyrdd’, ac yn cadw’i dail caled, sbigog drwy’r flwyddyn. Mae’n tyfu’n naturiol ym Mharc Cenedlaethol Yosemite yng Nghaliffornia, UDA, lle mae’n bosib gweld esiamplau anferthol. Mae rhai dros 80m o uchder a’u cylchfesur yn fwy na 30m. Mae’r coed hyn dros 3000 o flynyddoedd oed.

Cafodd hadau cochwydd eu hanfon i Ewrop gan gasglwyr planhigion yn yr 1850au, a chychwynnodd hyn gystadleuaeth i weld pa mor dda y byddai’r goeden yn tyfu mewn gwahanol wledydd. Gwelwyd bod hinsawdd y DU yn addas iawn, ac mae yna rai enghreifftiau gyda chylchfesur o dros 11m ac uchder o dros 50m i’w gweld bellach yn ein parciau a’n gerddi mawr. Mae enghraifft fawr iawn ei maint i’w gweld ychydig filltiroedd oddi yma, yn Llangadog ger Crucywel.

Un o nodweddion arbennig y Cawr Gochwydden yw ei rhisgl meddal sbyngaidd. Yn ei chynefin naturiol mae’r haen drwchus hon o risgl yn diogelu’r goeden rhag cael ei niweidio gan danau gwyllt. Mae’r conau yn agor yn y gwres ac yn gollwng eu hadau, ac maen nhw’n egino ar y ddaear sydd wedi’i glirio o blanhigion eraill gan y tân. Mae’r pren yn medru gwrthsefyll pydredd yn dda iawn ond mae’n arbennig o frau, felly does dim gwerth iddo fel pren ar gyfer gwaith coed.

Dros y blynyddoedd mae tipyn o ddadlau wedi bod ynglŷn â pha enw i’w ddefnyddio am goeden mor nodedig. Roedd yr arbenigwyr coed Prydeinig am ei galw’n Wellingtonia, ar ôl Dug Wellington, gyda’r Americanwyr yn ffafrio Washingtonia, ar ôl George Washington, llywydd cyntaf yr Unol Daleithiau. Yn lleol does ganddi ddim enw arbennig, ond efallai y bydd y llwybr treftadaeth hwn yn newid pethau.