Pennau Normanaidd Cerfiedig
Croeso i Gadeirlan Aberhonddu. Ar ein llwybr treftadaeth, gallwch ddarganfod beth mae’r adeiladau, y coed, a’r gwrthrychau o fewn y tir o gwmpas y gadeirlan yn ei ddatgelu am ein gorffennol a’n presennol. Mae 14 o wahanol storïau ar hyd y llwybr. Gallwch eu darganfod a’u harchwilio ym mha drefn bynnag. Pan welwch chi logo’r Gadeirlan, pwyntiwch gamera eich ffôn at y cod QR.
Mae’r ddau ben carreg cerfiedig yma yn dipyn o ddirgelwch. Wyddom ni ddim pwy ydyn nhw na beth maen nhw’n ei gynrychioli. Ychydig o dystiolaeth sydd ynglŷn â’u tarddiad ac a ydyn nhw wedi bod yn rhan o’r cyntedd gogleddol o’r cychwyn cyntaf. Credwn eu bod yn dyddio o’r cyfnod Normanaidd (1066-1075). Mae eu harddull yn nodweddiadol o gerflunio Normanaidd, serch hynny, does dim ffynonellau dogfennol i gadarnhau pryd y cawsant eu cynhyrchu.
Yn y cyfnod hwn roedd cerrig adeiladu o chwareli yng ngelli’r Priordy yn gyfleus er, mae’n debyg, fod cerrig o ansawdd gwell ar gyfer gwaith addurno a mowldio yn dod o bellach i ffwrdd.[1] Cafodd yr eglwys Normanaidd hon ei haddasu a’i gwella fesul tipyn o’r pen dwyreiniol tua’r gorllewin, felly mae’n siŵr i’r cerfiadau hyn gael eu cynhyrchu yn rhan gynharaf y cyfnod.
Mae un o’r pennau o ddiddordeb arbennig am ei fod yn modelu math “Celtaidd” o gerfio. Mae pennau cerfiedig “Celtaidd” i’w cael ledled ardaloedd yn Ewrop, gan gynnwys Cymru, a oedd ar un adeg yn gartref i bobl a oedd yn cael eu galw’n Geltiaid. Mae gan yr arddull ddilyniant neilltuol, a gellir ei weld mewn enghreifftiau yn dyddio o’r cyfnod Brythonig-Rufeinig hyd heddiw. Beth yw eich barn chi? Pwy allent fod yn ei gynrychioli?
[1] Ibid. p. 5.