Cadeirlan Aberhonddu
Croeso i Gadeirlan Aberhonddu. Ar ein llwybr treftadaeth, gallwch ddarganfod beth mae’r adeiladau, y coed, a’r gwrthrychau o fewn y tir o gwmpas y gadeirlan yn ei ddatgelu am ein gorffennol a’n presennol. Mae 14 o wahanol storïau ar hyd y llwybr. Gallwch eu darganfod a’u harchwilio ym mha drefn bynnag. Pan welwch chi logo’r Gadeirlan, pwyntiwch gamera eich ffôn at y cod QR.
Sefydlwyd Cadeirlan Aberhonddu yn wreiddiol fel cymuned o fynachod Benedictaidd, dan arweiniad prior ac yn dilyn urddau Sant Benedict. Sefydlwyd y gymuned gan Bernard de Neufmarché, sef y cyntaf o oresgynwyr Normanaidd Cymru. Ym 1093, gorchfygodd Neufmarché Rhys ap Tewdwr, Brenin y Deheubarth - Sir Frycheiniog yn ddiweddarach. Roedd y castell, rai cannoedd o lathenni i’r de-orllewin, a’r Priordy yn ddau symbol o rym Bernard yn Aberhonddu.
Mae’n dra thebyg fod eglwys Gymreig ar y safle hwn cyn yr ymosodiad, ond erbyn tua 1150 roedd eglwys llawer mwy wedi ei hadeiladu, a hynny yn yr arddull Romanésg, gyda bwa crwn, a oedd yn cael ei ffafrio gan y Normaniaid. Ychydig o’r adeilad hwnnw sydd wedi goroesi, gan i’r eglwys gael ei hailadeiladu bron yn llwyr yn y 13eg ganrif yn arddull Seisnig Cynnar ffasiynol gyda bwâu pigfain yn hytrach na rhai crwn. Dim ond y bedyddfan Romanésg, y gellir ei weld y tu mewn i adain orllewinol y gadeirlan, sydd wedi goroesi o’r eglwys Normanaidd. Yn y cyfnod canoloesol roedd y Priordy yn gyrchfan i bererinion a’r groes euraid fawr a oedd wedi’i gosod dros sgrîn anferth y tu mewn i’r adeilad yn cael ei hystyried fel un o saith o ryfeddodau hynod Cymru.
Wedi i Harri VIII ddiddymu holl fynachlogydd Cymru a Lloegr yn yr 16eg ganrif, parhaodd eglwys y priordy yn Aberhonddu fel eglwys blwyf Aberhonddu. Wedi ei hystyried bob amser fel un o’r eglwysi harddaf yng Nghymru, ym 1923 daeth yn gadeirlan Esgobaeth newydd Abertawe ac Aberhonddu, un o chwe esgobaeth yr Eglwys ddatgysylltiedig yng Nghymru.
Mae’r Gadeirlan wedi’i hadeiladu ar ffurf croes yn rhedeg o’r gorllewin i’r dwyrain, gyda thŵr yn y canol lle mae’r ddwy fraich yn cwrdd. Mae’r fraich hiraf i’r dde o’r tŵr yn wynebu’r gorllewin ac yno roedd pobl yn dod – ac yn dal i ddod – i gymryd rhan mewn gwasanaethau. O dan a thu hwnt i’r tŵr lle’r arferai’r mynachod gyflawni eu defodau, mae’r clerigion a’r côr heddiw yn cyflawni eu dyletswyddau. Yn y pen dwyreiniol pellaf mae’r brif allor. Mae’r tŵr canolog yn cynnwys set odidog y Gadeirlan o 10 cloch, sy’n cael eu canu’n rheolaidd pan fydd gwasanaethau.
Wrth i ni sefyll yma, gallwn feddwl am sefydlu’r priordy gwreiddiol 900 mlynedd yn ôl, ond mae’r posibilrwydd ei fod yn safle i eglwys gynharach yn golygu y gallai hwn fod yn lle o addoliad Cristnogol ers rhyw 1500 o flynyddoedd.