Hafan Eglwys Gadeiriol Aberhonddu François Husson

François Husson

Croeso i Gadeirlan Aberhonddu. Ar ein llwybr treftadaeth, gallwch ddarganfod beth mae’r adeiladau, y coed, a’r gwrthrychau o fewn y tir o gwmpas y gadeirlan yn ei ddatgelu am ein gorffennol a’n presennol. Mae 14 o wahanol storïau ar hyd y llwybr. Gallwch eu darganfod a’u harchwilio ym mha drefn bynnag. Pan welwch chi logo’r Gadeirlan, pwyntiwch gamera eich ffôn at y cod QR.

Carcharor rhyfel Ffrengig oedd François Husson a fu yn Aberhonddu rhwng 1 Tachwedd 1806 tan ei farw ar 27 Ebrill 1810. Roedd yn 48 oed pan fu farw. Cafodd ei eni yn Chambley, pentref bach gwledig yn agos i Metz yn Ffrainc. Roedd Husson yn ddibriod, ond roedd disgynyddion ei deulu yn dal i fyw yno yn yr 1990. Ym 1781 ac yntau’n 18 oed, ymunodd François Husson â Llynges Ffrainc. Roedd wedi dringo i reng Capten yn y 4edd Gatrawd Lyngesol erbyn iddo gael ei gymryd yn garcharor ym 1806.

Roedd Prydain a Ffrainc yn rhyfela pan ymunodd Husson â’r llynges. Cafodd ei ddal fel rhan o ailgychwyn brwydro gyda Gweriniaeth Chwyldroadol Ffrainc o 1793, ac yna Napoleon tan 1815. Roedd Husson ar fwrdd y llong Ffrengig, Le President, ffrigad 44-gwn gyda 330 o ddynion ar ei bwrdd. Ar ôl cael ei herlid am 17 awr, cipiwyd y llong gan sgwadron lyngesol Brydeinig Syr Thomas Louis ar 28 Medi ychydig oddi ar arfordir Llydaw. Symudwyd Husson ynghyd â 67 o garcharorion rhyfel Ffrengig eraill i Garchar Forton ger Portsmouth.

Rhwng 1803 a 1814, credir bod 122,440 o garcharorion Ffrengig wedi cael eu dal ym Mhrydain; amcangyfrifir i 10,000 ohonynt farw, ac anfonwyd 17,000 adref yn ystod y cyfnod 1803-1814. Roedd carcharorion rhyfel yn cael eu cadw mewn carchardai Prydeinig, ysgerbydau llongau (hen longau yn cael eu defnyddio i ddal carcharorion) neu, os oeddent yn swyddogion, byddent o bosib yn cael eu rhyddhau ar barôl. Roedd 6 lleoliad yng Nghymru lle’r oedd carcharorion yn cael eu rhyddhau ar barôl – Aberhonddu, Y Fenni, Llanfyllin, Trefaldwyn, Y Drenewydd a’r Trallwng

Cafodd Husson ei ryddhau ar barôl ar 1 Tachwedd 1806, wedi dim ond pedwar diwrnod yng Ngharchar Forton. Cafodd ef a 12 carcharor arall eu symud i Aberhonddu. Credir bod 86 o garcharorion i gyd yn byw yn Aberhonddu rhwng 1806 a 1812.Ychydig wyddom ni am eu profiadau ond hwyrach eu bod yn byw gyda’i gilydd yn rhai o’r tai hynaf yn y dref. Roedd amodau i barôl carcharorion. Nid oedd caniatâd iddynt gerdded ymhellach na milltir o’r dre a hynny heb fynd trwy gaeau na chroesffyrdd. Roedd yn rhaid iddynt hefyd gyrraedd adref cyn amser cyrffyw: 5pm ym misoedd y Gaeaf (Hydref – Mawrth) ac 8pm ym misoedd yr Haf (Ebrill – Medi). Roedd y rhai a oedd ar barôl yn derbyn lwfansau gan y llywodraeth, ond prin yr oedd rheiny’n ddigon i fyw arnynt, felly’n aml byddent yn dibynnu ar gardod gan bobl leol.

Ni wyddom y rhesymau am farwolaeth Husson, ond ef oedd yr unig garcharor rhyfel i farw yn Aberhonddu. Ni fyddai ganddo’r modd i dalu am ei garreg fedd ei hun, felly mae’n rhaid mai pobl leol a’i cododd. Efallai mai’r teulu Williams, a oedd yn gyfeillgar â Husson, wnaeth hynny. Mae’n amlwg fod pwy bynnag a oedd yn gyfrifol yn gwerthfawrogi ac yn parchu Husson. Dyma ddywed yr arysgrif ar ei garreg fedd:

By Foreign Hands his Humble grave Adorn’d
By Strangers Honour’d and by Strangers Mourn’d