Tŷ’r Priordy (Swyddfeydd yr Esgobaeth)
Croeso i Gadeirlan Aberhonddu. Ar ein llwybr treftadaeth, gallwch ddarganfod beth mae’r adeiladau, y coed, a’r gwrthrychau o fewn y tir o gwmpas y gadeirlan yn ei ddatgelu am ein gorffennol a’n presennol. Mae 14 o wahanol storïau ar hyd y llwybr. Gallwch eu darganfod a’u harchwilio ym mha drefn bynnag. Pan welwch chi logo’r Gadeirlan, pwyntiwch gamera eich ffôn at y cod QR.

Tŷ’r Priordy oedd yr enw a roddwyd ar yr hyn sy’n awr yn Swyddfeydd yr Esgobaeth ac wedi bod felly o’r 18fed ganrif o leiaf. Cyn y Diwygiad Protestannaidd credir mai dyma oedd tŷ’r Prior, y mynach a oedd yn gyfrifol am y priordy a’i ystadau. Prior cyntaf Aberhonddu oedd Walter, mynach o Abaty Battle yn Nwyrain Sussex, lle’r enillwyd Brwydr Hastings gan y Normaniaid. Abaty Battle oedd mam-abaty priordy Aberhonddu – y fynachlog a sefydlodd yr abaty yn Aberhonddu. Mae’r adeilad presennol o’r Canol Oesoedd, rhannau ohono o bosib i’w dyddio i’r 12fed ganrif, ac yn wreiddiol wedi’i gysylltu â’r eglwys ei hun gan glawstrau. Roedd ganddo Neuadd Fawr hir lle y byddai gwesteion y prior yn ciniawa, a’r prior yn byw.
Yn ystod Diddymiad y Mynachlogydd cafodd Priordy Aberhonddu ei gau. Yn ystod yr 1530au torrodd Harri VIII y cysylltiad â Rhufain a sefydlu Eglwys Loegr fel y gallai derfynu ei briodas â Catherine o Aragon ac ailbriodi, yn y gobaith o gynhyrchu etifedd. Rheswm arall oedd y gobaith o allu cael gafael ar diroedd, meddiannau a llestri arian yr eglwys i ychwanegu at y drysorfa frenhinol, ac felly dan gyfarwyddyd Thomas Cromwell (1485-1540), prif gynghorydd y Brenin, dechreuwyd ar y broses o ddiddymu’r mynachlogydd ym 1538. Diddymwyd Priordy Sant Ioan Aberhonddu ym 1538. I ddechrau, rhoddwyd Tŷ’r Priordy i Esgob Tyddewi, Syr John Prise (a oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Syr Siôn ap Rhys) a oedd yn byw c.1502-1555. Roedd Prise yn briod â nith i Cromwell, ond roedd hi wedi’i geni yn Aberhonddu. Rhoddwyd tiroedd y Priordy i Prise i gydnabod ei wasanaeth i’r Brenin a’i rôl yn cefnogi’r Diddymiad. Derbyniodd hefyd Briordy Benedictaidd Sant Guthlac yn Henffordd, lle bu’n byw tan ei farwolaeth ym 1555.
Prise oedd un o’r arolygwyr yng ngwasanaeth Thomas Cromwell a fyddai’n ymweld â mynachlogydd fel rhan o arolwg cenedlaethol, y Valor Ecclesiasticus, i weld faint eu gwerth. Er nad oedd Prise yn byw ym Mhriordy Aberhonddu roedd wedi bod, ac yn parhau i fod, â chysylltiadau cryf â’r ardal. Cafodd ei benodi’n ysgrifennydd oes Cyngor Cymru a’r Gororau (a sefydlwyd i lywodraethu ar ran y Goron yng Nghymru a’r gororau) a gwasanaethodd fel siryf ac ustus heddwch yn Sir Frycheiniog, gan chwarae rôl bwysig ym maes cyfraith a threfn lleol. Ym 1547 urddwyd ef yn farchog ac etholwyd ef yn AS dros Sir Frycheiniog. Yn ogystal â chynnal gyrfa wleidyddol dan dri brenin, roedd Prise yn adnabyddus fel ‘a lover of antiquity’. Roedd yn casglu ac astudio llawysgrifau mynachaidd, ac ysgrifennodd weithiau a oedd yn gwneud defnydd helaeth o destunau crefyddol canoloesol Cymraeg. Er gwaethaf ei rôl yn y diddymiad, bu Prise yn gyfrwng i ddiogelu treftadaeth lenyddol Cymru.
Parhaodd Tŷ’r Priordy yn y teulu Prise tan yr 17eg ganrif. Yn ystod y Rhyfel Cartref Cyntaf (1642-46) arhosodd y Brenin Siarl yn y tŷ gyda’r brenhinwr Syr Herbert Price, ond tua diwedd yr 17eg ganrif gwerthwyd ef i Syr Jeffrey Jeffreys. Roedd y teulu hwn hefyd yn flaenllaw yn y sir, yn Aelodau Seneddol ac yn weithgar mewn llywodraeth leol. Etifeddodd Charles Pratt, Iarll cyntaf Camden (1713-94), Arglwydd Ganghellor Lloegr, y tŷ trwy ei wraig Elizabeth Jeffreys, ac yna cafodd Tŷ’r Priordy ei osod ar rent i denantiaid, gan amlaf o deuluoedd pwysig Aberhonddu, neu'r teulu Camden. Ym 1821, daeth Brenin Siôr IV yma ar ymweliad byr, a’r un modd ym 1827 y wraig a ddeuai wedyn yn Frenhines Adelaide. Cafodd y tŷ hefyd ei gymryd ar rent yn yr 1850au gan aelodau o’r teulu de Winton, a fyddai’n ddiweddarach yn sefydlu Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Ym 1856 prynwyd ef gan Wilfred Seymour de Winton, a oedd wedi’i eni yn y tŷ, a rhoddwyd y tŷ ganddo ef â’r Esgob Bevan i’r Eglwys. Bellach mae’n gartref i swyddfeydd Esgobaethol yr Esgobaeth.
