Hafan Eglwys Gadeiriol Aberhonddu Cedrwydden Libanus

Cedrwydden Libanus

Croeso i Gadeirlan Aberhonddu. Ar ein llwybr treftadaeth, gallwch ddarganfod beth mae’r adeiladau, y coed, a’r gwrthrychau o fewn y tir o gwmpas y gadeirlan yn ei ddatgelu am ein gorffennol a’n presennol. Mae 14 o wahanol storïau ar hyd y llwybr. Gallwch eu darganfod a’u harchwilio ym mha drefn bynnag. Pan welwch chi logo’r Gadeirlan, pwyntiwch gamera eich ffôn at y cod QR.

Fel y Cawr Gochwydden, conwydden yw Cedrwydden Libanus. Mae hyn yn golygu ei bod yn cynhyrchu conau yn hytrach na blodau. Mewn coed llawn-dwf mae’r deiliach mewn tyfftiau bach o ddail gwyrdd llachar ar ganghennau llorweddol gwastad sydd ymhell oddi wrth ei gilydd. Mae’r conau benywaidd, sy’n cymryd dwy flynedd i gynhyrchu hadau, ar ffurf casgen, tua 10cm o uchder ac yn aml mewn clystyrau bach, yn eistedd yn unionsyth ar y canghennau.

Mae’r goeden yn tyfu’n naturiol ym mynyddoedd dwyrain ardal Môr y Canoldir, lle mae iddi arwyddocâd o bwys hanesyddol a diwylliannol fel symbol o gryfder, harddwch a daioni. Mae’r pren yn gallu gwrthsefyll pydredd ac mae hyn yn golygu bod modd ei ddefnyddio i bob math o bethau. Mae ganddo hefyd arogl dymunol.

Yn y Beibl, mae disgrifiad nodedig o ‘dŷ’r Arglwydd’, y deml yn Jerwsalem a adeiladwyd gan y brenin Solomon tua 3000 o flynyddoedd yn ôl. Coed cedrwydd a gafodd eu defnyddio i leinio y tu mewn i lawer o’r adeilad ac y mae yna ddisgrifiadau manwl: ‘Yr oedd y cedrwydd y tu mewn i’r tŷ wedi eu cerfio’n gnapiau ac yn flodau agored; yr oedd yn gedrwydd i gyd, heb garreg yn y golwg’ (1 Brenhinoedd 6:18).

Cafodd y goeden ei chyflwyno i Brydain ym 1638 ac yn fuan daeth yn ffefryn ar gyfer parciau a gerddi mawr. Wyddom ni ddim yn iawn pryd y plannwyd ein Cedrwydden ni, ond rydyn ni’n awyddus i wybod!