Beddau esgobion
Croeso i Gadeirlan Aberhonddu. Ar ein llwybr treftadaeth, gallwch ddarganfod beth mae’r adeiladau, y coed, a’r gwrthrychau o fewn y tir o gwmpas y gadeirlan yn ei ddatgelu am ein gorffennol a’n presennol. Mae 14 o wahanol storïau ar hyd y llwybr. Gallwch eu darganfod a’u harchwilio ym mha drefn bynnag. Pan welwch chi logo’r Gadeirlan, pwyntiwch gamera eich ffôn at y cod QR.

Ganwyd Benjamin Noel Young Vaughan ar 25 Rhagfyr 1917. Enillodd Vaughan ei radd gyntaf yng ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ac yna’n ddiweddarach aeth ymlaen i astudio yn St Edmund Hall, Rhydychen a Westcott House, Caergrawnt, lle yr hyfforddwyd ef ar gyfer cael ei ordeinio. Bu’n athro yng Ngholeg Codrington, coleg diwinyddol Anglicanaidd yn India’r Gorllewin, ac o 1955-1961 ef oedd Deon Trinidad. Ym 1971, daeth yn ddeon Bangor ac yn esgob cynorthwyol yn esgobaeth Bangor, gan roi cymorth i Archesgob Cymru, Gwilym Williams. Ym 1976, cafodd ei ethol yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu, swydd a ddaliodd tan iddo ymddeol ym 1987. Bu farw yn 2003, yn 86 oed.
Ganwyd Edward Williamson ar 22 Ebrill 1892, fel unig fab Edward Williamson, cyfreithiwr yng Nghaerdydd, a’i wraig Florence Frances Tipton. O Goleg Diwinyddol Wells, ordeiniwyd ef yn ddiacon ym 1914 a gwasanaethodd fel curad eglwys Sant Martin, Potternewton (Swydd Efrog) o 1915 i 1917. Ordeiniwyd ef yn offeiriad ym 1916. Cysegrwyd ef yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu yng nghadeirlan Bangor gan Archesgob Cymru. Er na chafodd ei eni yng Nghymru roedd yn caru’r wlad a bu’n ymhél â’r Eisteddfod Genedlaethol pan oedd yn Ystradgynlais (1954). Ysgrifennodd yn helaeth am bensaernïaeth eglwysig a darlledodd ddarlith ar Henry Vaughan ar y BBC. Bu farw ar 23 Medi 1953.
Edward Latham Bevan oedd Esgob cyntaf Abertawe ac Aberhonddu. Ar ôl derbyn addysg breifat astudiodd ar gyfer Bagloriaeth yn y Celfyddydau yng Ngholeg Hertford, Rhydychen, lle y graddiodd ym 1884. Ordeiniwyd Bevan yn ddiacon ym 1886 ac yn offeiriad ym 1887. Ym 1897 daeth yn ficer Aberhonddu, gan olynu ei dad William Latham Bevan fel archddiacon ym 1907. Neilltuodd Bevan lawer o amser ac arian i gyfoethogi’r Gadeirlan yn Aberhonddu a chaiff ei gofio’n bennaf am ei waith ymhlith dynion a bechgyn. Bu farw yn Weymouth ar 2 Chwefror 1934 a chladdwyd ef yng nghyffiniau’r Gadeirlan yn Aberhonddu.
Ganwyd William Thomas Harvard yn Neuadd Defynnog, Sir Frycheiniog ym 1889 yn drydydd mab i ddiacon yng Nghapel Tabernacl, Defynnog. Wedi ei ordeinio gan John Owen, Esgob Tyddewi ym 1913, daeth Harvard yn offeiriad yno flwyddyn yn ddiweddarach. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd yn gaplan a dyfarnwyd y Groes Filwrol iddo ym 1917. Daeth yn enwog fel chwaraewr rygbi yn Aberystwyth, gan ennill cap i Gymru yn erbyn Seland Newydd ym 1919. Gwasanaethodd fel Curad Aberhonddu (1921-1922) ac yn ddiweddarach fel canon yng Nghadeirlan Aberhonddu (1930-34). Gwasanaethodd fel Esgob Llanelwy (1934-50) a Thyddewi (1950-6). Bu farw ym 1956, yn 66 oed, ym mhentref Gwbert, Ceredigion.
Ganwyd Wilfred Seymour de Winton yn Llanfrynach, Sir Frycheiniog ym 1856. Yn ystod ei gyfnod cynnar fel oedolyn roedd de Winton yn gweithio ym myd bancio yn Sir Benfro, a daeth yn gyfarwyddwr Banc Lloyds. Ym 1898 ysgrifennodd gyfres o draethodau ynghylch diwygio’r eglwys fodern. Daeth yn sefydlydd lleyg Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu ym 1923. Roedd hefyd yn un o gymwynaswyr pwysicaf Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac ym 1917 a 1919, rhoddodd dros ddwy fil o eitemau o borslen o’r cyfandir i’r amgueddfa. Bu farw yn Brighton ym 1929, yn 73 oed.
