Charles Henry Lumley VC
Croeso i Gadeirlan Aberhonddu. Ar ein llwybr treftadaeth, gallwch ddarganfod beth mae’r adeiladau, y coed, a’r gwrthrychau o fewn y tir o gwmpas y gadeirlan yn ei ddatgelu am ein gorffennol a’n presennol. Mae 14 o wahanol storïau ar hyd y llwybr. Gallwch eu darganfod a’u harchwilio ym mha drefn bynnag. Pan welwch chi logo’r Gadeirlan, pwyntiwch gamera eich ffôn at y cod QR.
Ymunodd Charles Henry Lumley VC â 97fed Catrawd y Troedfilwyr ym 1844 pan oedd yn 20 oed. Roedd ei deulu’n hanu o Gaint, ac roedd ganddynt gysylltiadau hirhoedlog â’r fyddin. Dringodd Charles Lumley drwy’r rhengoedd ac ym mis Chwefror 1848, ychydig wedi cychwyn Rhyfel y Crimea, cafodd ei ddyrchafu’n Gapten. Er i Lumley gael ei gydnabod am ei ddewrder, cafodd profiadau’r rhyfel effaith arhosol arno. Wedi i’w wyneb gael ei glwyfo’n ddifrifol gan ergyd gwn, dirywiodd iechyd meddwl Lumley. Ym mis Hydref 1858, ac yntau ond yn 34 oed, cymerodd ei fywyd ei hun.
Roedd gan Lumley ran yn yr ymosodiad terfynol ar Sevastopol, symudiad di-droi’n-ôl lluoedd Cynghreiriol Prydain, Ffrainc a Thwrci. Wedi torri trwy amddiffynfeydd Rwsia bu’n rhaid i filwyr y 90fed a’r 97fed Gatrawd dynnu’n ôl. Roedd Lumley ymhlith nifer o ddynion a gafodd eu cydnabod am eu dewrder yn yr ymosodiad. Ym mis Medi 1857 cafodd ei ddyrchafu’n Uwchgapten, a dyfarnwyd Lleng Anrhydedd iddo gan Ffrainc ac Urdd Medjidie gan Swltan yr Ymerodraeth Otoman. Ar 24 Chwefror 1857, cafwyd adroddiad am ei ddewrder yn y London Gazette ochr yn ochr â’r newydd fod Croes Victoria wedi ei dyfarnu iddo:
“For having distinguished himself highly by his bravery at the assault on the Redan, 8th September, 1855, being among the first inside the work, where he was immediately engaged with three Russian gunners reloading a field piece, who attacked him; he shot two of them with his revolver, when he was knocked down by a stone, which stunned him for the moment, but, on recovery, he drew his sword, and was in the act of cheering the men on, when he received a ball in his mouth, which wounded him most severely.”
Cafodd Croes Victoria ei sefydlu ym 1856. Roedd yn cael ei rhoi i filwyr o unrhyw reng am weithredoedd o ddewrder eithriadol ym mhresenoldeb y gelyn. Mae’n parhau i fod ymhlith dyfarniadau milwrol uchaf eu bri Prydain. Lumley oedd un o’r rhai cyntaf i dderbyn Croes Victoria; cafodd ei chyflwyno iddo yn bersonol gan y Frenhines mewn seremoni ym Mharc Hyde ar 26 Mehefin 1857.
Cafodd Lumley ei anfon i Farics y Santes Fair yn Aberhonddu, ac yno gosodwyd sawl cwmni dan ei awdurdod, recriwtiaid dibrofiad gan mwyaf. Yn ôl adroddiadau yn y papurau newydd ‘his health had been much affected by the close attention he had devoted to the drill of the numerous recruits under his command.’ Ar 17 Hydref 1858, lladdodd ei hun. Cofnododd y crwner ddyfarniad o ‘temporary insanity’, a oedd yn golygu y gallai gael ei gladdu gyda holl anrhydeddau’r fyddin. Er ei bod yn anodd esbonio pam i Lumley gymryd ei fywyd ei hun, mae’n bosib mai’r prif ffactor oedd ei brofiadau yn y rhyfel. Ers y Rhyfel Byd Cyntaf, mae cynnydd wedi bod yn ein hymwybyddiaeth o effaith ymladd ar iechyd meddwl milwyr, yn arbennig o ran anhwylder straen wedi trawma (PTSD), pryder ac iselder ysbryd.
Cafodd Charles Lumley ei roi i orffwys yn nhir Cadeirlan Aberhonddu. Mae ei Groes Victoria ar hyn o bryd yn cael ei dal a’i harddangos gan Amgueddfa Catrawd y Queen's Own Royal West Kent ym Maidstone, Caint.